Tudalen:William-Jones.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn sgwrsio yn y caban neu pan ddigwyddai, ar noson dywyll o aeaf, oedi ennyd wrth un o'r capeli a chlywed dyhead rhyw emyn yn nhawelwch yr hwyr. Ond cadwodd mab Wil Sowldiwr y pethau hyn yn ei galon, gan ddewis bod yn gwffiwr ac yn bysgodwr ac yn "gymeriad." A phan ddaeth i lawr i'r Sowth, cytunai â Shinc a rhai tebyg mai "dope" oedd crefydd, a gwrthododd yn lân fynd i wrando ar y gweinidog newydd yn Salem. Gwelai ef ar y stryd a chlywai am ei waith da mewn llawer cylch yn yr ardal, ond dyna fo, yr oedd y dyn yn cael ei dalu am ei waith, onid oedd? A phan anwyd Wili John, cafodd Crad esgus eto i fagu'r baban bob nos Sul, a throai glust fyddar i bob teyrnged a dalai Meri i Mr. Rogers. Felly y bu pethau am flynyddoedd—er na ddaeth baban arall i'w siglo nes i Wili John, yn hogyn rhwng saith ac wyth oed, ddwyn ei dad at grefydd. Na, nid edliw iddo gyfeiliorni ei ffyrdd a wnaeth Wili John ond ystrancio'n ffyrnig un nos Sul am nad âi ei dad gydag ef i'r capel. Rhoes glusten i'r creadur gwirion, ond ni wnaeth hynny ond gyrru'r gwrthryfelwr yn fwy ystyfnig fyth. Bu'n rhaid i Grad ildio, a cherddodd Wili John yn dalog yn llaw ei dad i'r oedfa. A thrannoeth, pan alwodd Mr. Rogers yn y tŷ, ni ddihangodd Crad i'r cefn neu i'r llofft o'i ffordd.

Yn awr yn ei wely, taflai ei ben wrth gofio'r amgylchiad, a gwenai wrth feddwl amdano ef, mab Wil Sowidiwr, yn gapelwr selog. Gwyddai fod sail i gyhuddiadau Shinc a'i gymrodyr; gwelai hefyd mai rhyw sefydliad i'w cadw'n orbarchus a diwyd ar y Sul oedd y capel i'r mwyafrif; a chlywsai am y penderfyniadau dibwys a basiai Sasiwn ac Undeb tra oedd Bryn Glo a lleoedd tebyg yn suddo'n ddyfnach i dlodi ac anobaith. Er hynny, rhaid bod rhywbeth gwirioneddol fawr yn Iesu Grist a'i efengyl i ysbrydoli gŵr fel Mr. Rogers i aros yng nghanol cyni'r cwm ac ymroi fel y gwnâi i wneuthur daioni.

Oedd, yr oedd yn rhaid bod rhywbeth nerthol yn cadw Mr. Rogers yn nhlodi Bryn Glo.

"William!" meddai un hwyrddydd.

"Ia, Crad?"

"Oes 'na Feibil yma, dywad?"

"Diar annwl, oes, dau neu dri. Pam?"

"Meddwl y liciwn i ddarllan tipyn arno fo, fachgan, os medri di ddŵad ag un i fyny ar y slei."