Tudalen:William-Jones.djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ar y slei?”

“Ia, rhag ofn iddyn' nhw wneud hwyl am fy mhen i.”

“Pwy?"

"Pawb-Shinc a Ned Andrews a Thwm Edwards a a ... Wili John.”

"Mi gei di f'un i. Mj a' i i'w nôl o 'rŵan."

Ac wedi iddo'i gael, cuddiodd Crad ef o dan ei obennydd. Ond darllenai lawer arno'n ddistaw bach, gan ddechrau deall paham y treuliai'r Hen Gron, y clocsiwr yn Llan-y-graig, gymaint o'i amser uwch ei ddalennau. Yna, un noson, daeth Wili John i mewn i'r llofft yn o sydyn a darganfod ei dad yn darllen ei Feibl. Gwenodd.

"Odych chi'n moyn thriller, Dada? Ma' un grêt 'da fi."

“Mae gin i un, 'ngwas i," meddai Crad yn dawel.

Ni ddeallai Wili John-ar y pryd.

PENNOD XVII

PEN Y BWRDD

År'r dyddiau heibio'n weddol gyflym i Grad. Yr oedd ganddo ddwy forwyn a dau was, a galwai rhywun i'w weld bron bob dydd. Safai'r set-radio hefyd ar y bwrdd wrth ei wely a châi fwynhad yn gwrando arno, yn arbennig ar raglenni Cymraeg. Casglai'r teulu oll yn ddefosiynol yn y llofft bob tro y disgwylid llais William Jones o'r teclyn, a phechodd Wili John yn anfaddeuol un nos Fercher wrth farnu bod Gary Cooper mewn ffilm yn fwy diddorol na'i Wncwl William ar y radio.

Synnai Meri fod Crad mor siriol. Pan orchmynasai'r meddyg iddo fynd i orwedd, dychmygai hi y byddai ei gŵr ar bigau'r drain yn ei wely ac yn bygwth codi bob bore, gan awgrymu i'r Doctor Stewart 'na fynd i weld ei nain. Gallai feddwl am William ei brawd yn dioddef yn addfwyn ac amyneddgar, gan yfed ei ffisig yn wrol heb dynnu ystumiau a chan ddiolch yn ddwys am bob cymwynas. Ond nid Crad. Gwrthryfelwr byrbwyll fuasai ef erioed, a chofiai'r adeg pan fflamiai dim ond iddi geisio'i gymell i wisgo'i grafat ar fore oer. Ond