Tudalen:William-Jones.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er syndod i bawb, yr oedd Crad, fel y proffwydi gynt, yn "siampl o ddioddef blinder ac o hir-ymaros." Collai ei dymer weithiau, wrth gwrs, ac nid unwaith na dwywaith y galwodd Wili John yn "debot gwirion," gan fethu â dyfalu sut yr oedd hi'n bosibl i un o'r hil ddynol fod mor ddwl, ond yr oedd Meri'n falch pan glywai ffrwydriadau Cradyddol felly. A Wili John, o ran hynny. "'Dada'n well 'eddi'," fyddai ei sylw ef ar ôl un o'r ebychiadau hyn.

Yr oedd Shinc hefyd yn wael. Gwyrai un diwrnod wrth fôn y clawdd yn ei alotment, a syrthiodd carreg fawr ar ei wegil. Cludwyd ef i'r ysbyty ar unwaith, ond erbyn hyn dychwelasai adref—i fyw am bythefnos mewn ystafell dywyll, gan i effeithiau'r ddamwain fygwth ei olwg. Âi William Jones i edrych amdano'n fynych a'i gael yn sur a sarrug yn nhywyllwch y parlwr aflêr. Digwyddodd yr anffawd rai dyddiau cyn y bwriadai Richard Emlyn gychwyn ar ei yrfa yn y Royal College of Music, ond llwyddodd y bachgen i ohirio dechrau ar ei gwrs tan fis Ionawr. Ac yn awr, yn y parlwr tywyll, heb fedru darllen na dim, prif gysur Shinc oedd gwrando ar y fiol a ganai ei fab iddo. Ond efallai mai bendith oedd y ddamwain, gan i Shinc fwriadu ymuno â'r International Brigade i ymladd yn Ysbaen.

William Jones oedd un o'r rhai cyntaf i glywed am yr ysgoloriaeth a enillasai Richard Emlyn. Un prynhawn, ac yntau'n digwydd dod allan o'r Post pan lifai'r plant lleiaf heibio o'r ysgol, penderfynodd fynd i gyfarfod Eleri. Cyr- haeddodd waelod y grisiau o'r ysgol yr un pryd â hi, a'r munud nesaf rhuthrodd Richard Emlyn atynt â'i wynt yn ei ddwrn a rhyw olwg gwyllt yn ei lygaid.

"Darllenwch a, Eleri!" meddai, gan estyn rhyw lythyr iddi. "Darllenwch a!"

Un golwg brysiog ar gynnwys y llythyr, ac yna taflodd Eleri ei braich am wddf y llanc a'i gusanu. Cofiodd fod ei hewythr gerllaw, ac mewn ymgais i wneud iawn am ei throsedd, rhoes gusan iddo yntau.

"Sgolarship i'r Royal College of Music, Wncwl!"

"Duwes annwl, go dda!" meddai'r dyn bach, gan roi ei het galed yn syth eto ar ei ben. "Ia, wir, da drybeilig! Rhaid inni ddathlu'r amgylchiad. Rhaid, wir. Mi awn ni'n tri i'r pictiwrs 'na heno. Hwda, Richard Emlyn, dyma iti hannar coron i godi ticedi i ti ac Eleri, rhag ofn y bydda' i dipyn ar