Dos, William, os wyt ti am fod mewn pryd yn y practis."
Rhyddhawyd Shinc o'i gell ar ddydd Sul, a galwodd i edrych am Grad trannoeth. Edrychai'n hen a llwyd, ac aethai ei wallt bron yn wyn. Gwisgai sbectol dywyll, ac ymddangosai'n ddwys a thawel iawn.
"Ydi stori William 'ma'n wir, Shinc?" gofynnodd Crad ymhen tipyn.
"Pwy stori?"
"Dy fod ti a'r plant yn y capal neithiwr?"
"Odi."
"Diawch, yr ydw i'n siŵr fod Sarah Bowen bron â chael ffit!"
"Odd."
"Shincin Rees y Comiwnist yn y capal!"
"Ia."
Dywedai'r unsillafau tawel nad oedd yn y pwnc ddeunydd cellwair.
"Be' ddigwyddodd, Shinc?"
"Pythewnos miwn stafell dywyll, Crad. 'On i jest mynd off 'y mhen yr wthnos gynta', bachan, ac ar y dydd Iou 'allswn i mo'i stico hi rhagor. 'I Ddiawl â'r Doctor! myntwn i a mynd mas i moyn fy nghap. 'Ma Richard Emlyn yn fy hala i'n ôl i'r parlwr ac yn gwneud i fi addo aros yno am dicyn. 'On i'n credu taw rhedag i moyn y Doctor 'odd a, ond yn lle 'ynny, fe ath a i dŷ Rogers, y gwnidog. 'Na fachan, bois!"
"Ia, 'na fachan!" meddai William Jones yn ddwys.
"On i 'riôd 'di siarad â fa o'r blân, a phan oedd a'n galw'n y tŷ i weld Richard Emlyn, 'on i'n 'i gwân hi mas drw'r bac. 'On i ddim yn moyn dope, 'chi'n gweld. Wel, pan ddath a miwn i'r parlwr,'on i'n barod iddo fa. Ond yffarn dân, ma'r bachan yn Gomiwnist, w!"
"Comiwnist!"
"Mr. Rogers!"
"Odi, ond 'i fod a'n moyn rhoi Cristnogath yng nghanol y sistem. Y sistem yn un nêt, medda' fa, yn reit—i—wala, ond bod isha cariad brawdol drwyddi hi. Ma' fa 'di rhoi bencid llyfyr rhw John MacMurray i fi i brofi'ny, a phan fydda' i'n cal iwso'r llygid 'ma eto, 'wy'n mynd i'w ddarllen a. Na ddadla' fydd yn y tŷ 'co wedi'ny! Ond fechgyn, ma' fa'n gweud petha' pert, w! 'Beth ych chi'n gredu sy'n wir bwysig miwn