Tudalen:William-Jones.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymdeithas, Shencin?' medda' fa wrtho'i. 'Yr un siawns i bawb, medda' fi. Ac, wrth gwrs, 'odd rhaid i fi gal gwneud speech, y speech 'no on i'n roi hyd y cwm 'ma. Ac wedi i fi gwpla, 'ma fi'n gofyn iddo fa beth odd e'n gyfri'n bwysig."

"Be' ddeudodd o, Shinc?" gofynnodd Crad.

"Dim ond un gair, yn dawel fach. Caredigrwydd,' mynta' fa. A damo, ar ôl iddo fa fynd, 'on i'n dechra' credu bod y bachan yn reit. Oddi ar wy' i'n dost, 'wy' i 'di cal lot o garedigrwydd, 'n enwedig 'da phobol y capel. Oni bai 'mod i'n 'nabod y bachan, fe faswn i'n credu taw fe odd yn hala'r bobol i'r tŷ 'co, i brofi'i fod a'n iawn."

Câi Crad hefyd garedigrwydd mawr, er bod pethau mor dlawd yn yr ardal. Wyau, ymenyn ffarm, hufen, ffrwythau, blodau—trawai llawer ymwelwr, gan geisio ymddangos yn ddifater, rywbeth ar y bwrdd wrth ochr y gwely; yn wir, un dydd Llun, ar ôl y Cyrddau Diolchgarwch yn y capel, edrychai'r llofft fel siop ffrwythau, a chafodd Wili John gyfle da i fod yn ddoniol—ac i loddesta. Dywedai Meri'r drefn wrth y cymwynaswyr hyn, ac addawent hwythau'n edifeiriol na ddygent ddim yno wedyn. Ond nid oeddynt yn wŷr da eu gair.

Canolfan y tŷ erbyn hyn oedd y llofft, nid y gegin fel cynt, ac yno yng nghwmni Crad a'i ymwelwyr y treuliai William Jones bron bob gyda'r nos. Cai ef a'r claf holl hanes Bryn Glo, ac er gwaethaf y pyllau segur, yr oedd bywyd y lle o hyd yn gryf ac eiddgar. Yr Eisteddfod yng Nghalfaria, y Cyrddau Mawr yn Nebo, y ddrama Gymraeg yn Soar, y noson o gystadleuthau Go-as-you-please yn Neuadd y Gweithwyr, y frwydr Rygbi ffyrnig yn erbyn Ynys-y-gog (Admission: 6d. Unemployed: 3d), yr ornest ddyrnol rhwng Pedlar Powell Bryn Glo a Jimmy Doe Caerdydd—yr oedd digon o destunau i sôn amdanynt. Ac, wrth gwrs, yr Wythnos Ddrama.

Ac yntau ar y pwyllgor, Twm Edwards a draethai'n huotlaf am yr Wythnos Ddrama, a haerai ef nad oedd ei fywyd bellach yn werth ei fyw. Talasai cannoedd o bobl chwech cheiniog yr wythnos ers misoedd, a daethai'r awr iddynt ddewis, o'r cynllun a oedd gan yr Ysgrifennydd, eu seddau i'r ŵyl. Cyhuddid y pwyllgor, fel arfer, o gadw'r seddau gorau iddynt hwy eu hunain ac i'w cyfeillion, gan ddisgwyl i bawb arall eistedd "mewn drafft" neu "tu ôl i hen bilar" neu "ar yr ochor" neu "yn y cefan." Onid oedd eu harian hwy gystal ag arian y