Tudalen:William-Jones.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwyllgor a'u ffrindiau unrhyw ddydd? Ni châi Twm funud o lonydd: damo, lle bynnag yr âi, gwelai rywun a erfyniai am iddo ddefnyddio'i ddylanwad er mwyn Anti druan nad oedd ar unrhyw gyfrif i eistedd mewn drafft neu Dad—cu a'i glyw mor ddrwg neu Meri Jane na welai ymhellach na'i thrwyn. Y tro diwethaf y gwasanaethai ef ar y pwyllgor, meddai Twm, a nodiodd Crad ei gydymdeimlad, er iddo gredu y clywsai dyngu'r un llw dro neu ddau o'r blaen.

"Be' ydi'r dramas y tro yma, Twm?" gofynnodd.

"Dere weld 'nawr. Nos Lun—'Baby Mine'; nos Fawrth—Candida' Bernard Shaw; nos Fercherc'Hundred Years Old'; nos Iau—'Othello'; nos Wener—Rose Without a Thorn'; nos Sadwrn—'The Sacred Flame.' 'Na ti brogram, bachan! A 'fydd y lle'n packed bob nos.

"Piti na fasa' 'na un neu ddwy yn Gymraeg, yntê?" meddai William Jones.

"Dim galw, dim galw. A 'fydda' Mr. Nibbs, y beirniad, ddim yn 'u deall nhw... O, shwd sêt gawsoch chi, William?"

"Y... un reit dda, wir."

"Wyddwn i ddim dy fod ti wedi talu at gael ticad," meddai Crad wrth ei frawd yng nghyfraith, a edrychai braidd yn euog. "Do, fachgan, yr ydw i'n talu chwe cheiniog yr wsnos ers tro. Meddwl y liciwn i fynd yno un noson a Meri ryw noson arall ac Eleri y noson wedyn a Wili John ..."

"Wy' ddim yn 'i foyn a" Wili John a drawodd i mewn i'r llofft am funud.

"O? Pam?"

"Ma' Gomer a fi 'di cael ein dewis."

"Dewis i be?" gofynnodd ei dad.

"I fod yn Stiwards. Ma'roséts mawr gwyn 'da ni, a fe gewn ni weld pob drama am ddim."

Ac i ffwrdd ag ef a'i ddannedd anwastad fel baneri ar wên ei fuddugoliaeth.

"Diawcs, mae hwn'na yn 'i dallt hi!" oedd sylw'r claf.

"Mae arna' i ofn fod 'na lot o anian 'i dad ynddo fo, William!"

Ond am y gorffennol yr oedd y sgwrs gan amlaf, a gwrandawai William Jones yn astud ar atgofion llawer un. Naturiol oedd i feddyliau glowyr di—waith droi'n ôl i'r amser pan gâi hyd yn oed ŵr ungoes neu unfraich ryw waith yn y pwll. Daro, dvna le oedd yn y cwm y pryd hwnnw, a gweithwyr yn llifo