Tudalen:William-Jones.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pwy oedd yn deud 'mod i'n bwriadu mynd o' 'ma? A finnau'n rêl Hwntw a newydd brynu belt ac yn deud 'Shwmâi, bachan?' a ..."

Gwelodd na thyciai'r digrifwch ddim. Estynnodd Crad ei law allan, a chydiodd yntau ynddi.

"Diolch iti, 'r hen William ... Am bopath."

Cyfarfyddai'r côr y noson honno, a chafodd Meri waith i gymell ei brawd i fynd i'r practis. Ildiodd o'r diwedd ar ôl rhedeg i fyny i'r llofft ar flaenau'i draed a gweld bod Crad yn cysgu'n dawel. Yn ddiysbryd iawn y cerddodd tua'r capel, a thawel oedd ei "Go lew, wir, diolch," pan gyrhaeddodd yno. Prif waith yr hwyr oedd dysgu'r gytgan Happy and Blest Are They, ond yn beiriannol a breuddwydiol y canai William Jones ac y gwrandawai ar gynghorion yr arweinydd. Cawsant yr hawl ymhen rhyw awr i ganu'r gytgan drwyddi, a thawelwyd ei feddwl gan hud a hyder y gerddoriaeth. Ac erbyn diwedd y darn—

Oh, happy they who have endured!
For though the body dies,
The soul shall live for ever—

canai mewn llawenydd pur, gan ddiolch i Fendelssohn am droi ffydd yr adnod yn orfoledd cerdd. Darfu cân y côr, ac yna, fel petai'r gorfoledd yn ymwrthod â geiriau, ym—chwyddodd yn y seiniau a ddenai bysedd Richard Emlyn o'r organ. Troes y chwarelwr ei ben a gwelai Eleri'n gwrando ar y miwsig a'i llygaid yn gloywi gan falchder. Ia, hogyn iawn oedd Richard Emlyn. Ia, 'nen' Tad.... Rhoes Idris Morgan bwniad i'w fraich, gan nodio tua phen y sedd. Yno safai Shinc, a darllenodd William Jones ar amrantiad y newydd a oedd yn ei wyneb. Amneidiodd ar Eleri, a gadawodd y ddau eu seddau'n dawel, gan frysio drwy'r capel a thuag adref.

* * * *

Syllai William Jones i'r tân, gan wylio fflam droellog yn goleuo a mygu bob yn ail. Noson yr angladd ydoedd, a threuliasai ef ac Arfon ryw awr yn mynd trwy bapurau Crad a thrwy'r biliau ynglŷn â'r cynhebrwng. Ac yn awr aethai Arfon a Wili John allan am dro, ac eisteddai eu hewythr yn y gadair freichiau mewn myfyr. Curodd hwrdd o law ar y ffenestr... Diolch bod ei esgidiau Sul am draed Wili John: