Neidio i'r cynnwys

Tudalen:William-Jones.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'faint o weithiau yr oedd eisiau ei siarsio i fynd â'r lleill i'w gwadnu? "Y tebot gwirion!" chwedl ei dad.

Bore trannoeth dychwelai Arfon i Lundain, Wili John i'r siop, ac Eleri i'r ysgol, a dechreuai yntau weithio yn Llan-y-bont. Ni wyddai'n iawn beth fyddai ei orchwyl yno, ond deallai mai un o fagad yn torri ffyrdd o adeilad i adeilad fyddai ar y cychwyn. Dywedai Twm Edwards fod y lle'n cynyddu'n haerllug o gyflym, a phroffwydai y gwelid ef yn ymgreinio tros hanner dwsin o gaeau cyn hir. Beth oedd y bwriad tu ôl i leoedd fel hyn, tybed? Dychrynu tipyn ar yr Almaenwyr 'na, wrth gwrs... Ia, wel...

Gwyrodd Meri o'i flaen i bwnio'r tân, a chyffroes William Jones drwyddo am ennyd. Syllodd ar ei gwddf tenau, ar ei gwar grom, ar yr arian yn ei gwallt, ac ar groen crychiog y llaw a ddaliai'r procer. 'Rargian, dyna debyg i'w mam yr oedd Meri'n mynd! Credasai am funud mai ei fam a oedd yno.

Yr oedd hi'n rhyfedd meddwl ei fod ef a Meri hefo'i gilydd eto, yn hwyrddydd eu bywyd fel hyn, a theimlai am foment fel petai'r blynyddoedd rhyngddo ef a'i fachgendod wedi'u dileu'n llwyr. Pan oedd yn hogyn ysgol, ni hoffai Wili ei chwaer o gwbl: hi a gariai straeon pan gwffiai hefo Huw Êl neu pan yrrid ef i aros cosb wrth ddesg y Sgŵl, a hi—"Meri bach" bob gafael oedd ffefryn ei thad. "Welis i ddim ffwlpyn yr un fath â hwn erioed," a gâi ef, ond ni fedrai "Meri bach" wneud dim byd o'i le. Pan fu Richard Jones farw, buan y gwelodd Wili'r diwydrwydd a'r gwroldeb a oedd yn yr eneth eiddil a gynorthwyai'i mam hefo'r manglio a'r smwddio di-baid. A phan aeth hi i weini i dŷ Huws y Stiward, gwelai hi am ennyd bron bob dydd ar ei ffordd adref o'r chwarel, a gwyddai mor anhapus ydoedd. Ond ni châi ef sôn gair wrth eu mam. Ac â'r un gwroldeb tawel yr wynebasai hi'r blynyddoedd llwm yn y De ac yn awr y golled hon. Oedd, yr oedd Meri'n debyg i'w mam—mewn llawer peth. Eisteddodd hi yn y gadair gyferbyn ag ef am funud.

"Meri?"

"Ia, William?

"Wyt ti'n cofio Crad isio 'ngweld i bora Gwenar?"

Nodiodd hithau, gan ochneidio'n dawel.

"Wel, mi wnath imi addo, wsti ... y baswn i ... y baswn i'n edrach ar eich hola' chi yn 'i le fo."