Tudalen:William-Jones.djvu/270

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymryd y papur o law ei ewythr. "A ma' fa'n gweud y gwir. Ond yw a, Motsi Potsi?"

"Sut y gwyddost ti?"

"Ma' 'da tad Gomer bamfflets yn gweud yr un peth. A 'fydda'i a Gomer yn ddeunaw pryd 'ny, ac i'r Royal Air Force 'ŷn ni am fynd. Rh—rh—rh—rh!

"Dowch at eich swpar," meddai Meri. "Jest mewn pryd, Eleri," chwanegodd wrth ei merch, a ddeuai i mewn yr ennyd honno.

Ymwthiodd William Jones i'w le arferol wrth ochr Wili John ar y soffa. Ond nid oedd na chwpan na phlât na dim o'i flaen, a syllodd braidd yn ffwndrus ar y bwrdd.

"Nid yn fan'na yr wyt ti i fod, William," meddai'i chwaer.

"Mae'r hen soffa 'na'n rhy ... rhy isal iti. 'Rydw i wedi gosod lle iti yn... yn fan'cw.

"O?"

"Do, ym mhen y bwrdd, William."