Tudalen:William-Jones.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hamdden yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y ddwy. Ac yn union tros y ffordd iddynt yr oedd cartref Meri a Chrad a'u dau blentyn, Arfon ac Eleri—Meri'n casáu'r Leusa Davies 'na â chas perffaith, a Chrad yn un go fyr ei dymer a diofal ei dafod. Cannwyll llygaid y teulu oedd y babi, Eleri, a manteisiai Leusa ar bob cyfle i'w sarhau trwy ofidio trosti. Dyna biti fod ei choesau braidd yn gam, onid e? A'i gwallt mor syth? A'i thrwyn mor fawr? A'i bod mor araf yn dod i siarad yn eglur? Ac i sylwi ar bethau? Yn wir, pe gwrandawai'r teulu ar Leusa, credent y tyfai Eleri yn rhyw anghenfil. A phrin y gwelai Arfon, y bachgen dwyflwydd, aeaf arall.

Yna penderfynodd Crad adael y chwarel am y gwaith glo. Gwnaeth William Jones—gan hanner-credu mai dianc oddi wrth Leusa yr oedd ei chwaer a'i frawd yng nghyfraith—ei orau glas i'w ddarbwyllo, ond ni wrandawai Crad ar ei ddadleuon. "Gwynt teg ar 'u hola' nhw," oedd sylw Leusa, gan ymroi i fwynhau ei bywyd fel boneddiges. "Fel boneddiges," gan mai'r hen wraig a ofalai am lanhau'r tŷ a gwneud bwyd; beth a wnâi Leusa heblaw crwydro a chlebran, ni wyddai neb. Ac felly y bu pethau am ddeng mlynedd, hyd at farwolaeth Ann Jones. Go chwithig y teimlai Leusa hi ar ôl claddu'r hen wraig: yr oedd yn rhaid iddi wneud rhyw gymaint o waith wedyn. Mwy chwithig y teimlai William Jones hi : ni wybuasai fod y fath duniau o fwyd a ffrwythau i'w cael mewn siop. Yr oedd y bwced-ludw yn hanner-llawn o'r taclau bob wythnos, a phur anaml y câi ef bryd o fwyd a fwynhâi mewn gwirionedd. Yn 1929 y bu farw Ann Jones, ac aethai chwe blynedd go annifyr heibio er hynny, chwe blynedd o fyw di-hîd a diog ar un llaw ac o amynedd arwrol ar y llall. Teg â'r gwron yw croniclo'r ffeithiau hyn.

Ond yn ôl at y darlun o William Jones. Uwchlaw coesau disylw iawn, corff cymharol lydan a graenus ar waethaf ymdrechion Leusa i'w newynu. Pen bychan ar wddf byr; gên go grwn, heb fawr o benderfyniad ynddi; gwefusau llawn, rhadlon; trwyn braidd yn smwt; llygaid mawr, breuddwydiol dan aeliau trwchus; talcen llydan yn ymestyn i ddwy fodfedd o foelni y ceisiai'r perchennog ei guddio trwy gribo'i wallt tenau, brith, i lawr arno; corun moel. Dyna William Jones, yn ŵr tros ei hanner cant. Manylais gan fwriadu cael fy nghyfrif ymhlith y nofelwyr mawr.

Ei ddillad? Fel rheol, het galed ddu am ei ben; siwt