Tudalen:William-Jones.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nefi blŵ bob gafael; coler las a thei du; esgidiau duon a 'sanau tywyll. Gwnâi Leusa ymdrech deg weithiau i'w gael i brynu dillad golau ac esgidiau brown, ond methiant fu pob dadl a phob her.

Dyn bychan oedd William Jones. Ni chofiaf yn iawn beth a ysgrifennais wrth ei ddilyn ef a Now Portar. Os dywedais ei fod yn brasgamu wrth ochr Now, yna gwneuthum gamgymeriad dybryd. Ni frasgamodd William Jones erioed, ac ni frasgama byth. Am y rheswm syml fod ei goesau'n rhy fyrion i wneud y fath beth. Ni wisgodd erioed siwt redi-mêd, er iddo chwilio'n ddyfal yn siopau'r dref am ddillad felly. Y gôt a'r wasgod yn ei ffitio i'r dim bob tro, ond y llodrau fodfeddi'n rhy hir. Nid oedd dim amdani ond mynd at Williams y teiliwr i gael ei fesur ac i glywed yr un ffraethineb barfog am adael i'r pentref dynnu ei goes yn amlach. Sut y camodd William Jones mewn rheng o filwyr a oedd yn ddryswch mawr, a bu'n destun trafodaeth adeiladol iawn yn y Bwl un noswaith. Rhoi dau gam am bob un i'r lleill oedd barn bendant Twm Bocsar ar ôl ei bumed peint, ac ni feiddiai neb o'r cwmni anghytuno â Thwm.

Gadawsom ein gwron ar ei ffordd i fyny'r grisiau i newid ei ddillad. Sylweddolodd, ac yntau ar y chweched gris, fod ei esgidiau hoelion mawr am ei draed o hyd. Yr argian fawr, beth a ddywedai ei fam druan, petai hi'n fyw? Camodd i lawr yn ysgafn ac aeth i eistedd yn y gadair freichiau wrth aelwyd y gegin. Tynnodd yr esgidiau, ac yna syllodd yn chwyrn ar y botel bicyls. Wrth gwrs, rhyw greadur go ryfedd oedd Now John, yn yfed yn wastadol, ond cydymdeimlai William Jones ag ef y tro hwn. Diawch, yr oedd yntau hefyd wedi bygwth mynd i'r Sowth. Dydd Sadwrn, os âi Leusa i'r pictiwrs heno. Ond ni fyddai hi mor ffôl â hynny. Dim perygl!

Aeth i fyny'r grisiau eilwaith, ac wedi iddo newid a chychwyn i lawr yn ei ôl, tybiodd y clywai besychiad yn y gegin. Pan gyrhaeddodd yno, dyna lle'r oedd Bob Gruffydd, ei bartner, yn eistedd yn y gadair freichiau.

"Wyt ti'n dŵad i'r Seiat, William?" gofynnodd.

"Ydw’, fachgan. Ond mae hi'n ddigon buan, ond ydi?"

"Ydi. Lle mae Leusa gin ti?"

"Wedi rhedag i dŷ Ifan, 'i brawd. Rhywun wedi deud wrthi nad ydi o ddim hannar da."