Tudalen:William-Jones.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Taw, fachgan!"

"Ia. 'I...'i... 'i 'stumog o."

"O. 'Ydi o yn 'i wely?"

"Y... ydi, ers oria'. Mi fuo'n rhaid i Leusa fynd ar frys —heb glirio'r bwrdd na dim."

Aeth William Jones i'r gegin fach i nôl ei esgidiau ysgeifn. Daria unwaith, heb eu glanhau! Rhwbiodd gadach yn frysiog trostynt a dychwelodd i'r gegin i'w taro am ei draed. Syllodd yn eiddigus ar y gloywder ar esgidiau ei bartner. "Wel, mi awn ni'n ara' deg, Bob," meddai. Nifer bach a oedd yn y Seiat—rhyw ddwsin o wŷr, hanner dwsin o ferched, a phedwar neu bump o blant anfoddog eu trem. Y mae'n debyg y cytunai'r plant â barn Robert Gruffydd ei bod hi'n hen bryd "gwneud i ffwrdd' â'r Seiat.

Daeth Ifan Davies dal a phwysig i mewn ar ganol yr emyn cyntaf, a theimlai William Jones yn bur anghysurus. Taflodd olwg slei i gyfeiriad ei bartner, ond ymddangosai ef fel petai wedi anghofio bod Ifan Siwrin yn ei wely'n sâl. Un anghofus iawn oedd Robert Gruffydd, meddai William Jones wrtho'i hun.

Wmffra Roberts oedd prif areithiwr y Seiat. Gan na weithiai'r hen frawd bellach yn y chwarel, treuliai ei ddyddiau'n traddodi areithiau seiatyddol wrtho'i hun hyd y lle, gan ymbaratoi'n gydwybodol iawn ar gyfer y brodyr a'r chwiorydd yn Siloh. Gallai Mr. Lloyd y Gweinidog fod yn berffaith sicr y llanwai Wmffra Roberts chwarter awr o amser y Seiat, a bendith fawr oedd hynny a'r cwmni'n un mor dawedog. Yn wir, pan oedd Wmffra'n wael yn ystod y gaeaf, gwaith anodd iawn fu cadw'r cyfarfod ymlaen, gan mai gwŷr wedi eu breintio â'r ddawn o ysgwyd eu pennau oedd y mwyafrif. Ni roddid i William Jones gyfle hyd yn oed i hynny: gwyddai'r gweinidog na themtiai holl aur Periw a pherlau'r India bell y gŵr bach i godi ar ei draed a "dweud gair." Ond yr oedd ganddo galon heb ei hail, meddai Mr. Lloyd wrtho'i hun yn ystod yr ail emyn, a gwnâi byth a hefyd gymwynas â rhywun a oedd yn sâl neu mewn trallod. Trueni bod ei wraig yn un mor ... Ond dyna, hawdd iawn oedd beirniadu ein cyd-ddynion, onid e? Gwenu ar y cyfiawn a'r anghyfiawn, gwenu'n batriarchaidd a maddeugar, oedd polisi Edward Lloyd. "Parhaed brawdgarwch" oedd arwyddair ei fywyd, a gallai ymffrostio na chwythasai i'w eglwys erioed un awel