Tudalen:William-Jones.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hawdd oedd bygwth mynd i'r Sowth, ond yn awr, a'i feddwl yn dawelach, ni theimlai fod gwrhydri Now John Ifans ganddo ef.

Clywodd sŵn traed ar lechi'r cefn, ac yna rhoes Robert Gruffydd ei ben i mewn.

"Bron imi ag anghofio'n lân, fachgan."

"Anghofio be', Bob?"

"'Isio dy help di, os byddi di mor garedig. Alun 'cw yn tyfu, fel y gwyddost ti, a dim lle gynno fo yn y llofft i gadw'i ddillad. Finna’n meddwl symud y jest o drôrs i'w lofft o. Os ca' i dy help di, William."

"Â chroeso, Bob. Mi ddo'i hefo chdi ar unwaith." Ac i ffwrdd â'r ddau.

Pan glywodd hi sŵn tuchan a stryffaglio yn y llofft, rhuthrodd Jane Gruffydd i fyny'r grisiau.

"Neno'r dyn, be' ydach chi'n drio'i wneud?" gofynnodd i'w gŵr.

"Symud y jest o drôrs ’ma, Jane."

"Felly yr ydw i'n gweld." A phlannodd ddau lygad aruthr arno.

"Meddwl 'i rhoi hi yn llofft Alun. Ond prin y medrwn ni 'i symud hi."

"Dim rhyfadd, a phob drôr yn llawn o ddillad a blancedi a phetha’!"

"Ia, yntê! 'Wnes i ddim meddwl am wagio'r drôrs, hogan."

"A 'dydach chi ddim yn mynd i wagio'r drôrs chwaith, mi ofala' i am hynny. Be ydach chi'n feddwl ydw' i yn fy nhŷ fy hun? Ornament? Beth petaswn i'n dwad i'r chwaral i ddangos i chi sut mae rhedag y lle?"

Troes Robert Gruffydd ei gefn ar ei bartner a thynnu ystumiau ar ei wraig. Ond ni chymerodd hi yr un sylw ohonynt. "Dŵad i mewn o'r cefn a chlywad sŵn rhwbath yn cal 'i lusgo yn y llofft 'ma. 'Ydach chi'n dechra' drysu, ddyn?"

"Alun yn tyfu ac isio lle i gadw'i betha'." A cheisiodd Robert Gruffydd eto daflu winc anferth ar ei wraig.

"Cadw'i betha', wir! Beth petaswn i'n deud wrthach chi fod gynno fo dressing-table yn 'i lofft a bod un drôr ynddo fo'n hollol wag?"

"Y?" Yr oedd y ffaith anhygoel hon yn ddigon i Robert Gruffydd agor ei geg a'i dal hi'n agored am funud cyfan. "Dowch i gal eich swpar, ddyn," meddai ei wraig, "rhag