Tudalen:William-Jones.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofn i chi gymryd yn eich pen i ddechra' symud y gwely 'ma i lawr i'r parlwr."

Wedi iddynt gyrraedd y gegin, cychwynnodd William Jones am y drws yn o frysiog. Teimlai iddo yntau hefyd bechu, er na wnaethai ond rhoi help llaw i'w bartner.

"Paid â mynd, William, ne mi fydda' i yn cal coblyn row, wsti. Cymar smôc yn y gadair ’na am funud. Mi a' i i olchi ’nwylo."

Brysiodd Robert Gruffydd allan i'r cefn, ond arhosodd yn y gegin fach ar ei ffordd.

"Yr wyt yn un ddwl, hefyd!" sibrydodd wrth ei wraig.

"Isio rhyw esgus i'w gal o yma yr oeddwn i."

"I be?"

"Iddo fo gal tamad o swpar hefo ni. Dim ond tipyn o frôn. gafodd o pan ddath o o'r chwaral. Ac mae'r bwrdd heb 'i glirio o hyd."

Wedi golchi ei ddwylo, dychwelodd i'r gegin, a dilynodd Jane Gruffydd ef a dechrau gosod y bwrdd.

"Gymwch chi damad o swpar hefo ni, William Jones?" gofynnodd. "Dim, diolch, mae'n rhaid imi fynd. Mi fydd Leusa yn fy nisgwyl i."

"Ond mae gin i rwbath arbennig heno. Ffa wedi'u berwi fel y bydda' 'mam yn 'u berwi nhw. Un o Sir Fôn oedd 'mam, ac mi fydda’n berwi ffa hefo tamad o gig moch bob amsar. Mae'n rhaid i chi drio platiad bach."

Mwynhaodd William Jones y ffa'n fawr iawn; yn wir, bwytaodd ddau blatiad ohonynt gyda blas, a throes tuag adref yn teimlo'n llawer hapusach. Pan gyrhaeddodd y Stryd Fawr, llifai tyrfa'r sinema hyd y ffordd. Byddai Leusa gartref erbyn hyn, y mae'n debyg, a châi hi glywed un neu ddau o wirioneddau pwysig ganddo. Yr oedd yn hen bryd iddo ddangos ei awdurdod a phrofi ei fod yn frenin yn ei dŷ ei hun.

Ond nid oedd hi yn y tŷ. Dechreuodd glirio'r bwrdd, ond cofiodd y byddai angen swper ar Leusa. Ysmygodd yn fyfyriol wrth yr aelwyd, gan syllu’n freuddwydiol o amgylch y gegin. Ia, hawdd iawn oedd bygwth mynd i'r Sowth. Yma, yn y gegin hon, y chwaraesai wrth draed ei fam, ef a Meri ei chwaer; yma yr oedd ei atgofion, ei fywyd oll. Yma ... Clywodd gamau cyflym Leusa yn y cefn.