Tudalen:William-Jones.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Lot yn yr hen siop chips ’na," meddai. "Ac mi fu'n rhaid imi aros.

Ni ddywedodd William Jones air, dim ond syllu'n ddig arni'n gwagio cydaid o chips i bowlen. Swper go wahanol i'r un a gawsai Bob Gruffydd, meddai wrtho'i hun.

"Lle buost ti, Leusa?"

"Yn y pictiwrs, debyg iawn. Any objection?"

"Mi wyddost be' ddeudis i cyn iti fynd yno."

"Gwn." A chwarddodd Leusa'n uchel.

"Be' sy?"

"Mi ddeudis i wrth Ifan, ac 'roeddan ni'n dau yn chwerthin nes oeddan ni'n sâl. 'Roedd Ifan yn 'i ddybla'."

Soniais mai gŵr mwyn a thawel oedd William Jones a phwysleisiaf hynny yn awr, yn yr argyfwng hwn yn ei hanes. Nid oedd yn ei galon na malais na chenfigen tuag at undyn byw. Na, y mae'n rhaid imi dynnu'r geiriau yna'n ôl ar unwaith : ni allai ei gariad brawdol gofleidio'i frawd yng nghyfraith, Ifan Davies. Yn wir, a bod yn onest, yr oedd yn ei gasáu. Y mae gan bob un ohonom ei feddyliau cudd, y rhai hynny y gwnawn ymdrech deg i'w cuddio â gwên — wneud wrth sôn am rywun neu rywbeth diflas. Corddai teimladau a meddyliau annifyr yn ymysgaroedd William Jones bob tro y deuai Ifan Siwrin i'w olwg neu i'w sgwrs, er iddo wneud ei orau glas i fod yn gyfeillgar tuag ato. Dywedasai ganwaith mai arno ef ei hun yr oedd y bai, a phenderfynasai droi wyneb hoffus at ei frawd yng nghyfraith y tro nesaf y gwelai ef. Ond methiant fu pob ymdrech—ei wyneb yn teimlo fel darn o does ar ei waethaf a'i lais yn swnio'n wan ac ymhell. Ac yr oedd clywed am Ifan Davies yn ei ddyblau'n chwerthin am ei ben yn gwneud iddo gau ei ddyrnau a llyncu ei boer.

"Tyd at dy swpar," meddai Leusa, yn rhannu'r chips rhyngddynt.

Y mae'n rhaid imi, i fod yn eirwir, groniclo ateb William Jones.

"Cadw dy blydi chips," meddai. A thynnodd ei esgidiau'n ffyrnig a'u taflu o dan gadair cyn brysio o'r gegin ac i fyny'r grisiau.

Dyma ddiwedd y bennod hon. Ond ni allaf ei gollwng o'm dwylo heb wneud un ymgais arall i amddiffyn William Jones. Gwn, ddarllenydd hynaws, dy fod yn codi dy ddwylo mewn braw a ffieidd-dod, gan benderfynu llosgi'r llyfr rhag