Tudalen:William-Jones.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofn iddo lygru moesau dy geraint a'th gyfeillion. Yn gyntaf, hoffwn gyhoeddi'r ffaith mai dyma'r unig dro yn ei fywyd i William Jones ddefnyddio'r gair anfelys a ysgrifennais uchod. Ymh'le y daethai o hyd i'r gair, ni wn, oni chlywsai ryw feddwyn yn ei adrodd yn ddifeddwl ryw nos Sadwrn. Y mae'n rhaid bod y gair yn ymguddio'n slei yn un o gilfachau ei feddwl ac, ar ôl hen flino ar anghofrwydd anhyglod, wedi penderfynu ennill amlygrwydd sydyn a beiddgar. Yn ail, cawsai ein gwron ddiwrnod anniddig iawn, ac yr oedd pall hyd yn oed ar amynedd William Jones. Sut y teimlet ti, gyfaill mwyn, yn yr un sefyllfa? Mi wn y buaswn i—ond dadl go wan yw'r gymhariaeth honno, gan na'm bendithiwyd i ag amynedd o gwbl.

Dywedodd rhyw ddyn mawr—nid wyf yn sicr nad myfi oedd y gŵr hwnnw—fod gan bawb ei deimlad. A gawn ni gofio'r gwirionedd sylfaenol hwnnw wrth farnu William Jones?


PENNOD IV

GOLDEN STREAK

"GŴR mwyn" y gelwais i William Jones, onid e? Credaf fod y disgrifiad yn un cywir a theg, ond yn wir, wrth imi fanylu ar ei hanes cythryblus, y mae'n rhaid imi gyfaddef bod cysgodion o amheuaeth yn tueddu i grynhoi yn fy meddwl. Efallai am fod y gair drwg a ddefnyddiodd cyn troi i'w wely wedi rhoi ysgytiad go arw imi.

Disgwyliwn i'r "gŵr mwyn" fynd ar ei liniau wrth ei wely a chrefu am faddeuant iddo ef ei hun ac i'w wraig. Hoffwn pe medrwn gofnodi hynny, ond y mae'n rhaid imi gadw at y ffeithiau. Na, yn syth i'w wely, gan deimlo'n ffyrnig at y byd a'r betws, yr aeth William Jones. Gwelai, drwy'r ffenestr, aur a phorffor y machlud ym mhellterau nef y gorllewin, ond ni chymerodd yr un sylw o ogoniant yr hwyrddydd. Gorweddodd ar ei ochr dde, yna ar ei gefn, yna ar ei ochr chwith, ond ni allai gysgu. Arhosodd Leusa i lawr yn o hwyr, yn mwynhau rhyw nofel Saesneg am wraig a chanddi gariad ar y slei, a chymerodd ei gŵr arno chwyrnu'n groch pan ddaeth