"Wel, naddo, wir, fachgan. Maen nhw'n ..."
"Mi fydda' i'n gweld Huws heno, mae'n bur debyg. 'Fasach chi'n licio imi wneud apwyntment i chi? Be' am nos Lun?"
"Wel, na, yr ydw i am ohirio'r peth, Huw. Mae'r boen wedi mynd, fachgan, ac mae'n well imi ..."
"Gadewch imi gael 'u gweld nhw." Ac aeth Huw ar ei gwrcwd o flaen William Jones.
"Y nefoedd fawr!" meddai mewn dychryn pan agorodd y gwr â'r ddannoedd ei geg.
"Be', Huw?"
"Paiarïa!"
"Y?"
"Paiarïa." Ac ysgydwodd Huw ei ben yn drist, gan edrych fel un a welai ŵr condemniedig ar ei ffordd i'r grocbren.
"Be' 'di hwnnw, Huw?"
"Gadwch imi 'u gweld nhw eto, William Jones."
Rhythodd ar y dannedd, ac yna rhoes ebychiad o ryddhad.
"Dydi hi ddim yn rhy hwyr," meddai. "Gwenwyn ydi'r paiarïa 'na, ond 'dydi o ddim wedi cal gafal yn eich cês chi. Mi fyddwch yn iawn, William Jones, ond i chi 'u tynnu nhw ar unwaith. Mi wna' i apwyntment i chi ar gyfar nos Lun os medar Huws eich ffitio chi i mewn. Peth ofnadwy ydi'r paiarïa 'na, wyddoch chi. Pobol yn marw hefo fo bob wsnos a nhwtha' ddim yn gwbod 'i fod o arnyn nhw. 'Roedd Huws yn deud wrtha'i..."
"Mae'n rhaid imi fynd i'r Cwarfod Gweddi nos Lun, Huw."
"O. Nos Fawrth 'ta'."
"Na, yr ydw i wedi ... wedi addo rhoi help i Bob 'ma i ... i drwsio'r tŷ."
"Wel, mi siarada'i hefo Huws heno i weld pryd y medar o'ch ffitio chi i mewn. Mi ro'i wbod i chi fora Llun, William Jones."
"Dyna chdi, fachgan."
Wedi i Huw Lewis ei adael, suddodd eto i fyfyr dwys. Oedd, yr oedd pethau'n mynd o ddrwg i waeth yn ei hanes ef a Leusa, ac yr oedd hi'n hen bryd iddo wrthryfela, taro'i ddwrn ar y bwrdd, dangos ei awdurdod, rhoi ei wraig yn ei lle. Cofiai'r tro hwnnw yn y fyddin pan ddywedodd wrth y sarsiant am feindio'i fusnes. Disgwyliasai gael wythnos o garchar am ei haerllugrwydd, ond ni wnaethai'r sarsiant ond agor ei