Tudalen:William-Jones.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

geg ac yna troi ymaith fel un a welsai ddwsin o ysbrydion. Dyna'r ffordd i drin rhywun fel Leusa, yn lle rhoi i mewn iddi o hyd, o hyd. Pan âi adref heno...

Yr oedd hi'n "greisis," chwedl y pregethwyr, yn hanes William Jones. Darllenais rywdro yn rhywle am hen fynach yn ei gau ei hun yn ei gell i droi a throsi'n noethlymun ar wely o ddrain. Felly y teimlai William Jones yn unigrwydd ei wal, er bod trowsus melfared a chrys gwlanen amdano. Ei feddyliau ef a droai ac a drosai'n ddiorffwys, a holltai'r clytiau o gerrig yn beiriannol hollol, gan nodio'n freuddwydiol ar hwn a'r llall a âi heibio ar eu ffordd i'r twll. Cododd oddi ar ei blocyn o'r diwedd yn benderfynol o ddangos i Leusa pwy oedd pwy a be' oedd be'.

Teimlai'n sychedig, a phenderfynodd fynd i'r caban am ddiod o ddŵr: câi air hefyd â'r hen Ddafydd Morus a ofalai am y lle. Dyna i chwi gymeriad! meddai William Jones wrtho'i hun ar ei ffordd drwy'r bonc. Trigai'r hen frawd ar ei ben ei hun ar fin y pentref, a thalai'r gwaith gyflog bychan iddo am ofalu am y caban: derbyniai hefyd geiniog y pen yr wythnos gan aelodau'r caban. Fel "Dafydd Gwen" yr adwaenai pawb ef, gan mai ei gwmni gwastadol oedd ei gath, Gwen. Cludai hi i'r chwarel bob dydd mewn basged o dan ei fraich, a siaradai â hi o fore tan nos. Cafodd William Jones ef yn pwyso ar goes ei frws llawr ac yn siarad â Gwen a eisteddai ar gongl un o'r byrddau: gan fod yr hen frawd yn bur drwm ei glyw, ni chlywsai'r sŵn traed yn nrws y caban.

"Waeth gin i be' ddeudi di," oedd y geiriau a ddaeth i glustiau William Jones, "ond 'tydi'r byd 'ma ddim yn mynd yn well wrth fynd yn waeth. 'Ydi o?" Ni wyddai'r gath. "Faint oedd yn y Cwarfod Gweddi nos Lun? Y?" Ni chofiai Gwen. "Wel, mi ddeuda' i wrthat ti. Deg. Ar hugain? Naci, dim ond deg. A 'doedd dau o'r rheini ddim yn cyfri'. Dŵad yno i ganu'r organ yr oedd hogyn Dic Jones, a dŵad i agor a chloi'r capal yr oedd Ned Williams. A 'faint oedd yn y Seiat?" Collasai'r gath bob diddordeb a mynd ati i lyfu ei phawen. "Gwranda di arna' i pan ydw i'n siarad hefot ti, 'rûan. Gofyn yr oeddwn i 'faint oedd yn y Seiat, yntê? Tri ar ddeg, ac 'roedd 'na bedwar o blant ymhlith rheini. A dyma iti gwestiwn arall. Be' ddaw o'r capal ymhen ugain mlynadd? Y? 'Wyddost ti ddim? 'Wn inna' ddim chwaith. Ond paid ti â meddwl mai'n capal ni