Tudalen:William-Jones.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyrhaeddodd ganol y pentref. Adnabu'r llais ar unwaith fel eiddo Sally Davies, hen wraig gyfoethocaf yr ardal a pherchen tair ystryd o dai. Croesodd y stryd ati.

"Dydwi ddim yn licio sôn wrthach chi, William Jones, ond gwraig weddw ydw inna', ac mae'r hen drethi 'ma mor drwm a hen gosta' byth a hefyd ar dai. Y to yn y tŷ yma a'r ffenast yn y tŷ arall a'r feis yn y nesa', a'r hen drethi 'ma yn mynd ag arian rhywun i gyd. Eich mam druan! Y gynta' yma'n talu'r rhent bob mis. Ac 'rydach chitha', chwara' teg i chi, wedi talu'n brydlon iawn. Mae hi'n anodd imi sôn am y peth wrthach chi, William Jones, ond gwraig weddw ydw'i, yntê? ..."

Beth gynllwyn a geisiai'r ddynes ei ddweud?

"Mae'n ddrwg gin i, Mrs. Davies, ond 'wn i ddim..."

"Ia, William Jones, mae pethau'n troi'n o chwithig weithia'. Ond mae'n rhaid i minna fyw, ac mae'r hen drethi 'ma yn mynd â'r arian i gyd. 'Ddeudis i ddim wrthach chi am ddau fis, ond 'roedd hi'n dri mis ddydd Llun dwytha', ond oedd?

A finna'n wraig weddw heb neb yn gefn imi, yntê?..."

"Mi ddo' i â'r arian heno, Mrs. Davies. Yn ddi-ffael." A brysiodd ymaith.

Y nefoedd fawr! Y rhent heb ei dalu ers tri mis! Hyd ychydig fisoedd cyn hynny ef a ofalai am y rhent, ond rhodd- ai'r arian i Leusa yn awr, gan y cwynai Sally Davies am y bobl a'i cadwai yn ei thŷ gyda'r nos. Aeth y meddwl a fuasai'n drobwll am oriau yn ystod y dydd yn awr yn grochan berw.

Daeth sŵn y peiriant gwnïo i'w glustiau pan gyrhaeddodd y tŷ. Eisteddai Leusa wrth fwrdd y gegin, ac o'i blaen anialwch o sidanau. Cadwasai ryw droedfedd glir ym mhen y bwrdd, ac ar hwnnw yr oedd platiad o fara-ymenyn a phlatiad o samon a rhai llestri te. Yr oedd darnau o edau a thameidiau o sidan ym mhobman hyd y llawr, ac yng nghongl y gegin crochleisiai rhyw ferch drwy'r set-radio.

Trawodd William Jones ei dun-bwyd ar gornel y dresel yn chwyrn, ac yna aeth yn syth i fyny'r grisiau i'r llofft gefn. Yno, dan glo mewn drôr fechan, cadwai ddecpunt bob amser: credai mewn cael arian wrth law at unrhyw alwad sydyn. Cymerodd bedair ohonynt, ac, wedi cloi y drôr yn ofalus, brysiodd i lawr y grisiau.

"I b'le'r wyt ti'n mynd?"