"I dalu'r rhent."
Aeth Leusa ymlaen â'i gwnïo.
Pan ddychwelodd William Jones, cafodd y fraint o fwyta'r samon i gyfeiliant y peiriant gwnïo a'r radio, a chyn hir rhoes ei gyllell a'i fforc i lawr yn ddig.
"Rho dipyn o heddwch i ddyn gael 'i fwyd, wir," meddai, gan godi i dawelu'r gantores ar y radio.
"Mae'n rhaid imi orffan hefo'r patrwm yma," oedd ateb Leusa. "Mi gefis 'i fenthyg o pnawn 'ma gan 'Fanwy May, ac 'rydw i wedi addo mynd â fo yn 'i ôl heno. Mae'r material 'ma gin i yn y tŷ ers wythnosa', wedi methu cal patrwm on i'n licio ar 'i gyfar o. A phan ydw i'n cal patrwm, y mae'n rhaid i ti ..." A dechreuodd Leusa sniffian.
Fel rheol, rhoddai'r sniffian crio daw ar ddadleuon William Jones, a chodai mewn brys i roi ei fraich am wddf Leusa ac i'w hargyhoeddi ei fod yn bechadur trist ac edifeiriol. Ond y tro hwn ni wnaeth ond edrych yn ddiymod arni heibio i'r peiriant gwnïo. Gwelodd nad oedd deigryn yn ei llygaid, a daeth i'w feddwl mai ffug fuasai'r wylo funud ynghynt.
"Tra byddi di'n rhoi gorffwys i'r peiriant yna," meddai, "efallai yr hoffet ti egluro be' ddigwyddodd i arian y rhent."
Pwl arall o grio oedd ateb Leusa, gan swnian rhywbeth am bethau'n mynd yn ddrud a hithau'n ei gweld hi'n anodd i gael y ddau ben llinyn ynghyd.
"Rho'r gora' i'r sŵn 'na ac ateb fy nghwestiwn i."
Ond ni fedrai William Jones gael gair synhwyrol ganddi, a bodlonodd ar anwybodaeth—a thawelwch i fwyta'r samon.
Wedi gorffen ei fwyd, cododd ac agor drôr y dresel.
"Be' wyt ti isio yn fan 'na?" gofynnodd Leusa'n frysiog.
"Y llyfr rhent. Mi anghofis fynd â fo hefo mi gynna'.
Mi bicia' i eto i dŷ Sally Davies ... Hylô, be'ydi hwn?"
"Be?"
"Y papur bach 'ma ... Golden Streak."
"Wn i ddim. O, yr ydw i'n cofio 'rŵan. 'I godi o ar y ffordd y diwrnod o'r blaen a meddwl ..."
Gwelodd William Jones fod wyneb ei wraig yn fflam.
"Paid ag ecseitio, rhag ofn i'th galon di stopio." Ac aeth tua'r drws â'r llyfr rhent yn ei law.
"Wyt ti'n siŵr nad carlamu i mewn yma ddaru o?" gwaeddodd o'r drws.