Tudalen:William-Jones.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V

DEUD GWD-BEI

WEDI i'r hen Sally Davies arwyddo llyfr y rhent a chael cyfle arall i rwgnach am gostau byw, troes William Jones gamau araf tua'r mynydd. Yr oedd yr hwyr yn fendigedig, ond er iddo ddweud wrth amryw ar y ffordd fod y noson yn braf, ni theimlai ef hynny. Ac yntau yn ei wae, pa hawl a oedd gan Natur i liwio'r hwyr mor gain ? Rhoi ei arian ef ar geffylau ! Ni ddisgwyliasai ddirywiad mor ofnadwy â hynny.

Aeth heibio i lonyddwch gwasgarog, coch, yr ysgol, ond nid oedd ganddo atgofion melys am y lle. Cansen fawr Huws Bach y Sgwl, cyfarth y Miss Edwards honno a ddysgai Standard III, aroglau dillad plant ar ddiwrnod glawog, bwrn y Saesneg tragwyddol, diflastod diderfyn y wers olaf bob bore a phob prynhawn bron—pethau felly a ddeuai i'w feddwl. A chofiai adael am y chwarel yn llawen, gan gerdded yn dalog drwy'r pentref o'r gwaith gyda'r nos heb gymryd yr un sylw o athro neu athrawes a ddigwyddai ei gyfarfod ar y ffordd. Dysgodd ddarllen yno—ond yn awr ni ddarllenai ond y papur newydd wythnosol. Dysgodd ysgrifennu—ond nid ysgrifennai ond pwt o lythyr weithiau at Feri ei chwaer. Dysgodd gyfrif—i fesur llechen a sicrhau bod ei gyflog, yn iawn a llyfr y siop yn gywir. Crychodd William Jones ei drwyn.

Y mae arnaf ofn bod athrawon ac athrawesau lu yn fy meio am groniclo anniolchgarwch ffiaidd William Jones i'r gyfundrefn addysg. Beth, gofynnant, a allai neb ei wneud â'r hogyn yswil ac ofnus a mud a oedd yn un o ryw ddeugain ac ychwaneg ym mhob dosbarth? Hawdd iawn yw beirniadu, meddant, a rhoi bai ar yr athrawon truain. Ond hanner munud, ni feirniedais i neb, dim ond darlunio William Jones yn mynd am dro heibio i'r ysgol. Er hynny, gan fy mod yn ei adnabod yn weddol drwyadl, credaf y dylwn sôn am dair elfen yn ei natur na ddarganfu'r ysgol mohonynt o gwbl.

Yn gyntaf, yr oedd yn gerddor—neu, beth bynnag, yr oedd ynddo ddeunydd cerddor. Ef oedd seren ddisgleiriaf Band of Hope Siloh, enillydd cyson mewn cystadleuthau cerddorol ac unawdydd pêr ym mhob sosial. Cantor a oedd yn ddiwygiwr hefyd, yn ddadleuwr eiddgar iawn dros Ddŵr, dŵr, dŵr