Tudalen:William-Jones.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I bob sychedig un, a thros beidio â gwawdio'r meddwyn Na all symud cam, ond Cofio'i fod yn blentyn I ryw dyner fam.

Wili Jôs oedd y bachgen a alwai Huws Roberts allan i'r Sêt Fawr fel esiampl i'r plant eraill sut i ganu'r modulator, a gallai gyfieithu "Dyma Feibl annwyl Iesu" i gyd i sol-ffa yn ddibetrus. Oedd, yr oedd yn gerddor, ond beth a wnaeth yr ysgol ddyddiol â'i athrylith? Dim. Dywedaf eto—Dim. Ni allai William Jones gofio ond un gân a ddysgasai yn yr ysgol, a "Now the day is over" oedd honno. Ni chafodd gyfle hyd yn oed i ddadlau tros Ddŵr, dŵr, dŵr. Felly y collodd Gwlad y Gân un o'i chantorion melysaf.

Yn ail, yr oedd William Jones yn adroddwr—neu, beth bynnag, yr oedd ynddo ddeunydd adroddwr. Nid oedd ei debyg, yn ôl Wmffra Roberts, am adrodd "Arwerthiant y Caethwas" a "Bedd y Dyn Tylawd" yn y Penny Reading. Nid anghofiai yn y pennill cyntaf fel Huw Êl ac ni thorrai i grio fel Jennie Mabel. Na, fe safai Wili'n gadarn ar ei draed, gan edrych yn syth i wyneb y cloc a chodi ei lais i bawb ei glywed. Y mae'n wir y rhythai ar y cloc ac y gwlychai ei wefusau ar ddiwedd pob llinell, ond arwyddion o'i ymgysegriad i'w waith oedd y rhai hynny. A chyn cysgu'r nos, fe freuddwydiai Wili amdano'i hun yn adrodd "Bedd y Dyn Tylawd" o flaen y Brenin a hwnnw'n tynnu ei fodrwy oddi ar ei law ac yn ei rhoi ar ei law ef ac yn ei osod, â chadwyn aur am ei wddf, ar holl wlad yr Aifft. Ond beth a ddigwyddodd yn yr ysgol bob dydd ? "Twincyl, twincyl, licyl star" oedd yr ateb a ddeuai i feddwl William Jones. Ac felly y collodd Cymru adroddwr gwir fawr.

Yn drydydd, yr oedd Wili Jôs yn nofelydd—neu, beth bynnag, yr oedd ynddo ddeunydd nofelydd. Y wers a fwynhâi fwyaf oedd honno a gâi yn ystod yr hanner awr olaf ar ddydd Gwener yn Standard IV. Darllen stori a wnâi'r athro, Mr. Richards, stori Saesneg am drysor cudd mewn ynys bell a rhyw ddihiryn ungoes ac unliygeidiog yn ceisio'i ddwyn oddi ar yr arwr. Darllenai Mr. Richards baragraff yn araf ac yna troai'n ôl i'w ddechrau i adrodd ei gynnwys yn Gymraeg: Ni ddeallai Wili Jôs y Saesneg, ond perliai ei lygaid pan siaradai Long John Silver Gymraeg. "Twt, mae'r llyfr gin i gartra," meddai Now Dic Tŷ Ucha' wrtho un diwrnod, "ac 'rydw i wedi'i ddarllan o i gyd." Gan yr ysai am wybod beth a ddaeth o'r anturiaethwyr a'r trysor, holodd Wili ei gyfaill yn fanwl.