Tudalen:William-Jones.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond ni chofiai Now Dic ac nid oedd yr helyntion ffôl o un diddordeb iddo. Ni ddeallai Wili hynny o gwbl, a gofynnodd am fenthyg y llyfr. Ond wedi ei gael, araf a diflas fu ei daith o ddalen i ddalen, a dychwelodd ef i'w berchennog heb gael dim mwynhad ynddo. Caeodd yr ysgol am yr haf heb i chwilfrydedd Wili gael ei ddiwallu. Felly, cyn cysgu'r nos ac wedi deffro yn y bore, creodd benodau cyffrous a rhamantus am helyntion y gwŷr a geisiai'r trysor yn yr ynys bell. Wili ei hun, wrth gwrs, a ddaeth o hyd i'r aur a'r perlau, ac ef, ag un llaw yn gwarchod Enid May Owen, a oedd yn byw tros y ffordd, a laddodd Long John Silver â'i gleddyf. Yna daeth tyrfa o Indiaid Cochion o rywle, ond carlamodd Wili ac Enid May â'r trysor tros fynyddoedd creigiog a thrwy fforestydd tywyll i'r llong a oedd yn eu disgwyl mewn cilfach ddirgel.

Creodd Wili gyfrolau enfawr o anturiaethau yn y dyddiau hynny, nofelau Cymraeg a suddodd, ysywaeth, i ebargofiant. Yn eu lle llanwyd ei feddwl â ffeithiau pwysig a buddiol mai o Yarmouth (ac nid o Nefyn fel y tybiasai ef) y daw penwaig; bod pobl yn cael eu brecwast yn New York pan oedd ef, Wili Jôs, ar ei ffordd i'r ysgol bob prynhawn; bod mynyddoedd yr Himalaya yn uchel iawn, iawn; bod Tiber, tad Horatius, yn falch iawn o'i fab am ddal y bont; bod Abou Ben Adem ar ben rhyw restr am fod yn hogyn da; bod rhyw Frenin Charles wedi cael torri ei ben; ac mai ei le ef, Wili Jôs, oedd trio bod yn debyg i Nelson a Wellington, gwŷr na ddaliwyd mohonynt erioed yn dweud celwydd. Oedd, yr oedd Wili'n wybodus iawn. Gallai enwi siroedd ac afonydd Iwerddon i gyd, a gwnâi'r un gymwynas â Sgotland hefyd cyn gadael Standard V, gan daflu'r mynyddoedd i mewn yn y fargen. Gwn y dygaf anghrediniaeth i wyneb y darllenwr hynaws, ond mynnaf hefyd gyhoeddi'r ffaith y gallai Wili, ac yn Saesneg bob gair, roddi iddo restr gyflawn o allforion Jamaica. Anfelys i'r eithaf, er hynny, yw gorfod croniclo iddo fethu â gwerthfawrogi breintiau addysg, gan ddyheu am drowsus melfared a llwch y chwarel. Aeth y nofelydd, fel y cerddor a'r adroddwr, i drin llechi.

Dringodd William Jones heibio i'r eglwys, a heb yn wybod iddo'i hun bron, troes i mewn i'r fynwent ac ymlwybro i'r pen pellaf at fedd ei dad a'i fam. Wrth syllu ar enw ei dad ar y llechen, llithrodd ei feddwl yn ôl i'w fachgendod, a safodd yn hir wrth fin y bedd a'i feddwi yn llawn atgofion.