Tudalen:William-Jones.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni buasai Wili a'i dad yn gyfeillion mawr; yn wir, bron nad oeddynt yn ddieithriaid yn byw yn yr un tŷ. Y gŵr a ofalai ei fod yn mynd i'r Cyfarfod Gweddi a'r Seiat oedd Richard Jones i'w fab, y dyn a wgai arno bob tro y rhwygai ei drowsus, ac a'i daliodd un hwyr yn ysmygu papur llwyd yn y tŷ- bach. Ni welai'r bachgen ei dad yn ystod y dydd, wrth gwrs, ac yna, gyda'r nos, yr oedd rhywbeth yn y capel i'w cadw ar wahân. Edrychai Richard Jones â balchder mawr ar gerddor ac adroddwr disglair y Band of Hope ac ar yr hogyn a orfodai i ddysgu pennod gyfan ar gyfer y Seiat, ond nid oes gennyf braw fod yr un edmygedd yn y mab tuag at y gorfodwr. Mewn gair, pan bechai mewn rhyw ffordd, neu pan oedd rhyw ddyletswydd anfelys yn yr arfaeth, yr oedd y gyfathrach agosaf ac amlaf rhwng y ddau. Ei dad a ofalai ei fod yn "hogyn da," ac ni hoffai Wili fod yn greadur felly.

Yna, pan oedd Wili'n ddeuddeg oed, newidiodd pethau. Arhosai ei dad, a fuasai'n cwyno ers tro, gartref bob dydd, a châi'r bachgen ei gwmni bob pryd bwyd ac yn aml ar y ffordd i'r ysgol. Gwnaeth afiechyd y gŵr llym yn llariaidd ac ofnus, yn un a syllai'n ffwndrus-freuddwydiol ar bawb a phopeth. Lle chwyrnai gynt, fe agorai ei lygaid mawr yn ofidus yn awr; lle bu gorchymyn, yr oedd cais tawel a thrist. Nid oedd Wili ar un cyfrif i gynhyrfu'i dad, rhag ofn i bwl o besychu ysgwyd ei gorff bregus. Ac ufuddhaodd Wili, gan deimlo nad oedd gwialen fedw ar ei gefn yn ddim wrth y penyd hwn.

Difeddwl iawn yw hogyn deuddeg oed, a phrin y sylweddolai Wili fod llaw tlodi yn tynhau ei gafael ar ei gartref bob dydd. Câi ef a Meri eu dimai bob un ar ddydd Sadwrn o hyd, a galwai eu mam yn siop Huws Becar i brynu teisen- bwdin iddynt bob prynhawn Llun. Ni phoenai Wili fod ei ddillad yn fwy clytiog ac y gwisgai glocsiau yn lle esgidiau ; yn wir, teimlai y rhoddai'r breintiau hynny hawl iddo i fod yn fwy eofn a mentrus yn ei chwarae. Gallai ddringo coed ac ymwthio drwy wrychoedd drain yn awr heb boeni os rhwygai ei drowsus, ac onid dyfais ar gyfer cic-tun oedd clocsiau?

Yr hyn a ddiflasai holl enaid Wili oedd y golchi a'r manglio a'r smwddio tragwyddol a âi ymlaen yn y tỹ. Byddai ei fam wrthi bob bore ymhell cyn iddo ef godi; ac wedi gosod brecwast iddo ef a Meri, ymaith â hi i'r cefn neu i'r cwt i ddilyn ei gwaith. Llawer hwyr ar ôl yr ysgol, yr oedd yn rhaid iddo ef droi'r mangyl yn lle brysio i'r coed, lle'r oedd gwersyll