Tudalen:William-Jones.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Scouts Huw Êl. Gan fod Wili’n swyddog go uchel yn yr urdd honno (yr oedd ganddo dri marc coch ar ei frest, ac ef oedd perchennog dwy sach, yr hen badell ffrio, a dwy fforc), annheg iawn oedd ei gadw ef yn y tŷ, yn enwedig gan fod y Ciaptan, Huw Êl, yn gorfod edrych ar ôl y babi ambell noson.

Sosbenni, padelli, heyrn smwddio, dillad yn hongian yn y cefn ar dywydd sych ac yn y gegin ar dywydd gwlyb-dyna'r pethau a lanwai feddwl William Jones wrth iddo gofio'r amser hwnnw. A gwelai, yn wyneb llwyd ei dad, ddau lygad dwys a syn yn dilyn symudiadau cyflym ei wraig aflonydd, weithgar. Eisteddai Richard Jones drwy'r rhan fwyaf o'r dydd yn ei gadair freichiau wrth y tân, yn plygu ymlaen at y gwres, yn ŵr tawel a thrist a rhynllyd. Gwellhaodd dipyn at yr haf, a chrwydrai hyd y pentref ac i'r mynydd hefo Mot, ei gi. Rhoes yr haul wrid ar ei ruddiau, a gallai gynorthwyo ychydig hefo'r golchi a'r manglio, gan ddechrau sốn eto am ailgychwyn yn y chwarel. Ond wedi pwl o besychu un diwrnod, syllodd yn hir ar yr ysmotyn o waed ar ei gadach poced, a'i fraw yn floedd yn ei galon. A chyn hir aeth yr ysmotyn yn ystaen.

Pan aeth ei dad i orwedd, ymddiswyddodd Wili o Scouts Huw Êl, gan sylweddoli bod yn rhaid iddo ef a Meri wneud a allent i helpu eu mam. Ni sylwasai ar y tywydd o'r blaen, dim ond beio'r glaw weithiau am ei gadw rhag mynd allan i chwarae, ond yn awr, yn ddistaw bach, chwanegai weddi am wynt a haul at ei bader bob bore a phob nos. A threfnodd Rhagluniaeth Fedi a Hydref sych a chynnes i Wili, heb resi o ddillad gwlybion yn hongian uwch aelwyd y gegin; rhoes hefyd geiniogau lawer yn y jwg ar y dresel, y fan lle cadwai Ann Jones pres a enillai. A chafodd Wili a Meri ddillad newydd.

Ni welai'r plant lawer ar eu tad y pryd hynny, ond gyrrai eu mam hwy i fyny i'r ystafell wely am ychydig ambell gyda'r nos. Âi eu gweld yn drech nag ef, a thorrai i grio'n rhwydd iawn. Ni ddeallai Wili hynny o gwbl, ac ni hoffai'r peth: "hen fabi” oedd bachgen a griai yn yr ysgol, ac un o reolau Scouts Huw Êl oedd y diaelodid unrhyw un â deigryn yn ei lygaid.

Yna, yn sydyn, dug Tachwedd ei dywydd gwlyb ar waethaf paderau Wili.' Y niwl yn treiglo i lawr o'r mynydd byth a hefyd, y glaw syth, diderfyn, y dillad gwlybion yn hongian ar draws y gegin, aroglau sebon a soda drwy'r tŷ i gyd, niwlen