Tudalen:William-Jones.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

las ar ddodrefn a drysau, y ffenestri agerog yn cau allan y byd soeglyd—ni hoffai William Jones atgofio'r dyddiau hynny. Ac yna, wedi i'r niwl a'r glaw fynd heibio, rhuthrai'r gwyntoedd ystormus i daflu'r llond lein o ddillad ar ddaear wleb yr ardd. A phan flinai'r gwyntoedd, deuai'r rhew i droi'r dilladau ar y lein yn ystyllod diymadferth, llonydd. Anamlach ydoedd tincian y ceiniogau yn y jwg yn awr.

Dydd Sul oedd hoff ddiwrnod Wili yn y cyfnod hwnnw, y dydd pryd na fyddai un golwg o'r sosbenni a'r padelli a phan safai'r heyrn smwddio mewn llonyddwch disglair ar y pentan. A dyna gysurus a chyfeillgar oedd y tân ar y Sul! Buasai'n ffwrnais drwy'r wythnos, ond câi ef a'r tŷ i gyd a'r fam ddiwyd ysbaid o orffwys yn awr. Yr oedd Wili yn hoff iawn o'i fam bob Sul, gan y cymerai hi hamdden i fwyta gyda hwy wrth y bwrdd yn lle rhuthro ymaith i symud tegell oddi ar y tân neu i droi lliain er mwyn iddo gael sychu'r ochr arall. A chymerai hamdden hefyd i siarad â hwy, amdani ei hun yn ferch fach ym Meirion, ac am ei thad yn gyrru gwartheg bob cam i Lundain, ac am ei hewythr, y llongwr a aethai droeon o amgylch y byd. A châi Mot, y ci, faint a fynnai o fwyd a mwythau ar y Sul.

Syllodd William Jones yn freuddwydiol ar y garreg o’i flaen. "Ebrill 10, 1896," meddai hi, a chofiai'n glir yr hwyrnos pan ddaeth ei fam i lawr y grisiau i roddi ei breichiau am ysgwyddau Meri ac yntau, gan wylo a dweud wrthynt fod yn rhaid iddynt fod yn ddewr iawn. Tair ar ddeg oedd ef a Meri'n ddeuddeg, ond ni wyddai Wili pam yn y byd yr oedd yn rhaid iddo fod yn ddewr. Yn wir, pan ddeallodd y câi adael yr ysgol ar unwaith a mynd i'r chwarel, curai ei galon â llawenydd mawr. Dewr? Ac yntau wedi gofyn a gofyn am y fraint o weithio yn y chwarel.

Yr oedd Wili'n falch o gael gadael yr ysgol er iddo syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad yno. Y mae'n wir fod llygaid croes gan Enid May, ond yr oedd ganddi wallt du fel y frân a'r chwerthin pereiddiaf a glywsai neb erioed. Yr oedd hi bob amser yn chwerthin; beth bynnag a ddywedech neu a wnaech, fe chwarddai Enid May dros bob man. Ac ef, Wili Jôs, a ddeffroai'r chwerthin hwnnw'n fwy na neb. A chyn cysgu'r nos fe freuddwydiai amdano'i hun yn darganfod cyfandir newydd ac yn marchogaeth gydag Enid May drwy Lundain i sân cymeradwyaeth anferth y tyrfaoedd hyd fin y