Pan dawodd William Jones, pwysodd Twm yn erbyn ochr y cwt a syllodd yn hir ar flaen ei esgid dde.
"Wn i ddim be' i'w ddeud wrthat ti, wir, fachgan," meddai, o'r diwedd, gan boeri ar y llawr. "Rhyw le go ryfadd sy tua'r Sowth ’na, lle gwyllt, ryff ofnadwy, meddan nhw i mi. Y mae ’na filoedd allan o waith yno. 'Fydda' ddim yn well iti roi dy droed i lawr hefo Leusa, dywad, a gofalu 'i bod hi'n cael llawar llai o arian i'w trin ?"
"Yr ydw i wedi penderfynu, Twm."
Trawodd Twm Ifans y morthwyl ym mhoced ei gôt. "Tyd i lawr at y tŷ inni gal gair hefo'r hen wraig," meddai.
Wedi iddynt gerdded rhyw ugain llath, safodd Twm yn stond. "Y cythral bach !" meddai, gan ruthro tua'r tyddyn. Dilynodd William Jones ef i ddarganfod Meurig, hogyn hynaf Twm, yn gwthio berfa ag ynddi dri o blant swnllyd ar draws ei gilydd. Diflannodd y tri i'r tŷ pan nesaodd eu tad, ond safodd Meurig ei dir.
"Dos â'r ferfa fudur 'na yn ôl i'r beudy, wnei di !" meddai Twm, gan roi clusten gynnes i'r hogyn. "Wyddost ti mai cario tail y bydd dy dad yn hon'na ? Gwadna hi ar unwaith !" Aethant i gyfeiriad yr ardd yng nghefn y tŷ, ac yno, mewn cadair ysgafn o dan goeden afalau, eisteddai Elin Ifans, mam Twm, yn gweu hosan.
"Ga'i ddeud wrthi hi ?" sibrydodd Twm.
"Cei, am wn i, wir."
Adroddodd Twm y ffeithiau pwysicaf wrth ei fam, ond daliai hi ymlaen â'i gwau yn hamddenol. Gwraig denau, go dal, oedd hi, yn tynnu at ei phedwar ugain, ond yn gyflym iawn ei thafod a'i cham o hyd.
"Wel, yr hen wraig ?" gofynnodd Twm o'r diwedd.
"Mi yrra' i'r ci ar 'i ôl o y tro nesa' y daw o yma hefo'i hen sbectol fawr a'i lais pwysig."
"Pwy, 'mam ?"
"Yr Ifan Siwrin ’na. Mi fedri di edrach ar ôl dy bres heb 'i help o. Plant yr hen Isaac Davies ydi o a Leusa, a 'ddaw dim daioni ohonyn nhw byth. Mi fasai'r hen Isaac, pe medrai 0, yn dwyn y llefrith allan o de rhywun! A be' sy wedi dwad o'i blant o ? Yr Ifan Davies 'na yn ormod o hen gyb i roi dima' at ddim, a'i chwaer o, Leusa, yn gwastraffu fel ffŵl. Cofia fi at Feri, dy chwaer, pan ei di i'r Sowth, William."