Tudalen:William-Jones.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"A finna'n meddwl y basach chi'n 'i berswadio fo i ailfeddwl," meddai Twm.

"Ailfeddwl ? Pam?"

"Wel, lle ofnadwy sy tua'r Sowth 'na, meddan nhw, a ..."

"Medda pwy?"

"Wel, mi glywis i..."

"Paid â lolian. 'Fuost ti yno 'rioed ?"

"Wel, naddo, ond ...."

"Dos di i'r Sowth, William, am dipyn," meddai'r hen wraig, heb gymryd sylw o ddarluniau anghyflawn ei mab o'r lle. "Dydi hi ddim yn rhaid iti aros yno os na leici di dy le, weldi. Mi wneiff les i Leusa dy golli di am gyfnod a gorfod byw ar lai o arian. Cofia na yrri di ddim mwy na phunt yr wsnos iddi hi am y rhent a chwbwl. Mae hynny'n hen ddigon iddi hi. Diar annwl, ydi. Mi fagais i deulu mawr ar lai na: hynny. Do, 'neno'r Tad. Yr ydw i'n cofio pan briodis i..." Ond troesai'r ddau tua'r tŷ erbyn hyn.

Yr oedd plant ei gyfaill yn hoff iawn o William Jones, oherwydd dywedai stori wrthynt bob tro y galwai yn y tŷ. Cydiodd Gwen a Megan ynddo yn awr, un ym mhob llaw, a'i arwain i'r parlwr, lle ceisiai Wil bach a Meurig, â'u gweflau'n las i gyd, dynnu lluniau.

"Stori, Yncl William !" gwaeddodd y lleisiau oll.

"Na, mae Yncl William wedi blino," meddai eu tad, "a 'does gynno fo ddim stori heno."

Ond ni wrandawai'r plant ar ryw esgusion felly, a gwthiwyd y storiwr i gadair freichiau.

"Mi a'i i fwydo'r ieir," meddai Twm. Ac ymaith ag ef. Pennod o'i nofel gynnar am y trysor cudd yn yr ynys bell a roddai William Jones iddynt fel rheol, ond dywedodd stori newydd sbon y tro hwn. Nid oes gennyf na'r gofod na'r gallu i'w hailadrodd yn ei eiriau ef, ac felly bodlonaf ar roi crynodeb byr ohoni. Gweld Cymro, ci'r Hendre, yn gorwedd yn yr haul y tu allan i'r ffenestr a ddug y stori'n ôl i'w gof. Cydymaith ffyddlon ei dad pan oedd yn wael fuasai Mot, y ci a arferai gyfarfod Wili Jôs o'r ysgol bob dydd. Ci du a gwyn ydoedd, rhyw gymysgedd o gi defaid a sbaniel, a thyfasai'n un o'r teulu, yn cael ei ddifetha gan bawb. Rhoddai Ann Jones ddigon o fwyd iddo bob dydd i'w gadw i fynd am flwyddyn, a gofalai Wili a Meri nad oedd ar ôl o felysion pan oedd gan- ddynt rai. "Lle mae Mot?" fyddai'r cwestiwn aml oni