Tudalen:William-Jones.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddigwyddai'r ci fod yn y cwmni ar yr aelwyd. Rhuthrai i fyny'r grisiau bob bore i ddeffro'r plant, a dilynai hwy i'r ysgol a'u cyfarfod ar ddiwedd y bore a'r prynhawn, gan fynnu cludo rhywbeth yn ei geg bob gafael. A phan aeth Richard Jones yn wael, dilynai'r ci ef i bobman. Yna, un diwrnod, daeth Huw Rags ar ei rawd i'r pentref, ac wrth droi'n ôl i'r dref, dug y ci gydag ef yn slei bach. Mawr ond ofer fu'r holi a'r chwilio : gwerthasai Huw Rags ef i ryw ddyn a oedd yn byw ddeugain milltir i ffwrdd, a chadwodd hwnnw ef yn rhwym am ddyddiau. Ond rhyw noson, deffroes Richard Jones i glywed cwynfan a chyfarth ymbilgar o dan ei ffenestr. Brysiodd ei wraig i lawr y grisiau i ddarganfod y ci truan wrth ddrws y cefn. Cododd y teulu i gyd i weinyddu arno, a thrist iawn oedd canfod ei ludded a'i loes. Yr oedd yn rhy flinedig bron i ysgwyd ei gynffon, a syllasant â braw ar y doluriau ar ei gefn, ac ar ei bawennau gwaedlyd. Ymwthiasai, yr oedd yn amlwg, o dan weiren bigog. Ond er ei flinder a'i anafau, ymlusgodd i fyny'r grisiau y bore trannoeth at erchwyn gwely ei feistr claf, a buan y gwellhaodd o'i glwyfau ac y tewychodd eto fel cynt.

Cytunodd y plant i gyd ei bod hi'n stori dda iawn ac yr haeddai ei hawdur, fel chwedleuwr yr hen ddyddiau, brydo fwyd am ei dweud. Ond yr oedd Mrs. Jones yn ei ddisgwyl adref, meddai ef, a chododd i gychwyn ymaith. Daeth yr hen wraig i mewn o'r ardd a'i wthio'n ôl i'r gadair, gan benodi'r plant yn warcheidwaid arno tra byddai hi a'i merch yng nghyfraith yn paratoi swper.

Yr oedd hi wedi naw o'r gloch ar William Jones yn cyrraedd adref, ac oeraidd fu ei groeso. Safai'r peiriant gwnïo ar y bwrdd o hyd yng nghanol pentwr o sidanau lliwiog, a rhoddai chwaneg o'r samon urddas i'r droedfedd glir ar ben y bwrdd. Aeth yn syth i'r llofft fach a thynnodd y fasged wellt o'i chongl yno a'i chludo i'w ystafell wely. Crysau, hosanau, coleri, esgidiau, ei siwt ail-orau, dillad isaf-trefnodd y pethau'n ofalus yn y fasged. Yr oedd hi bron yn llawn pan ddaeth llais Leusa o'r gegin.

"William!" "Ia ?” "Ymh'le'r wyt ti? Tyd i gal dy swpar. Mae arna' i isio'r bwrdd 'ma i orffan fy ffrog newydd."