Tudalen:William-Jones.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo ffurfio barn mor gyfeiliornus amdano o'r blaen. Yna, yn sydyn, chwibanodd tân-belen i'r ddaear gerllaw, a chodwyd y tri ohonynt droedfeddi i'r awyr a'u gollwng drachefn mewn cawod o faw. Ymlusgodd William Jones at Mills i'w droi yn ôl ar ei gefn ac i sychu'r baw oddi ar ei wyneb, ac yna clywodd anadlu trwm y bachgen o swyddog. Gwelodd fod gwaed yn llifo o'i dalcen ac yn ei ddallu'n llwyr. Beth a wnâi? Rhoesent eu cadachau poced am y clwyf ar goes Mills, a rhaid oedd cael rhywbeth glân ar dalcen Howells yn awr.

Derbyniasai lythyr oddi wrth ei fam y diwrnod cynt: agorodd yr amlen a tharo'r tu glân ar y clwyf, a'i rwymo â'i puttee. Gwelai fod gwefusau'r bachgen yn wyn, ac ofnai y llewygai ar ôl colli cymaint o waed, ond gwenodd y llanc yn ddewr arno, gan sibrwd ei ddiolch.

Troes y glaw yn niwl cyn hir, a daeth yr hwyrnos yn gyflym. Pur anaml oedd fflachiadau'r gynnau yn awr, a gweddïai William Jones na wasgerid goleuadau Verey uwchben. Yn ffodus, dyn cymharol fychan oedd Mills, a chredai y gallai y ei gario'n weddol rwydd. Beth am Howells? Gobeithio'r nefoedd y medrai ei lusgo'i hun yn ôl i'r ffosydd.

"Lieutenant Howells," sibrydodd yn y tywyllwch.

"Ie?"

"Falla' mai dyma'r siawns ora' gawn ni. Beth am 'i thrio hi 'rŵan, syr?"

"O'r gore', Jones."

"Mi gymera' i Mills ar fy nghefn. Mi fydd yn rhaid inni lusgo ar ein hwyneba', mae arna' i ofn. Triwch gadw wrth fy ochor i, syr."

Llwyddodd William Jones i gael Mills ar ei gefn, ac yna ymlusgodd y ddau, fesul modfeddi, tua'r ffosydd. Nid anghofiai'r chwarelwr mo'r daith honno byth—y symud araf, araf; y llaid soeglyd o dan ei ddwylo; y darn o weiren bigog a dorrodd i mewn i'w ben-glin; y teirgwaith y llithrodd ei faich oddi ar ei gefn; yr ofn bod nerth Howells yn pallu. Gorffwysodd y ddau ymhen amser.

"Ydach chi'n iawn, syr?"

"Odw', diolch."

Goleuodd tân-belen y lle am ennyd, a gwasgodd y ddau eu cyrff yn dynn yn erbyn y ddaear.

"Cadwch eich talcen o'r mwd os medrwch chi, syr."