Tudalen:William-Jones.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tybiai William Jones fod anadlu'r bachgen yn drwm ac ansicr.

"Ydach chi'n iawn, syr?" sibrydodd eto.

"Odw', diolch."

"Ymlaen â ni, 'ta'."

Deng munud arall o ymlusgo drwy'r llaid oer, ac yna gorffwys eilwaith. Yr oeddynt yn ddigon agos yn awr i glywed lleisiau isel yn y ffosydd gerllaw.

"Rydan ni bron wedi cyrraedd, syr."

Nid oedd ateb.

"Bron wedi cyrraedd, syr."

Dim ateb yr eiltro.

"Lieutenant Howells! Lieutenant Howells!"

Y nefoedd fawr, beth pe collasent ei gilydd yn y tywyllwch niwlog! Na, yr oedd yn sicr fod Howells wrth ei ochr funud ynghynt. Rhoes ei law chwith allan—gyffwrdd ag wyneb oer, marw. Dyna'r foment fwyaf ofnadwy a gofiai William Jones, a bu fel drychiolaeth yn ei feddwl ddydd a nos am fisoedd wedyn. Druan o'r fam y soniasai'r bachgen mor annwyl amdani! Ac o'r arweinydd côr yng Nghwm Rhondda! Ac o'r bachgen a chwaraeai Rygbi a'r ferch a enillai mewn eisteddfodau! Gwelsai William Jones olygfeydd erchyll iawn yn Ffrainc, ond dyna'r tro cyntaf iddo dorri i wylo. Criodd fel plentyn yno yn y tywyllwch, gan felltithio pob un a ddadleuai tros ryfel. Pan ddaeth ato'i hun, penderfynodd dynnu'r gadwyn oddi am wddf y bachgen, a rhoes ei law allan eto. Mor oer oedd ei wyneb! Ond sut y gallai un a oedd newydd farw fod mor oer? Efallai mai rhywun arall ... Ymlusgodd yn ei ôl, gan ymbalfalu i dde ac aswy, a rhoes ei galon naid o lawenydd pan gyffyrddodd â llaw gynnes y llanc. Beth a wnâi yn awr? Ni allai yn ei fyw gario'r ddau ohonynt, ac yr oedd Mills yn gowlaid go anesmwyth erbyn hyn. Pe cludai Mills i'r ffosydd, gan fwriadu dychwelyd i nôl Howells, efallai y collai'r llanc yn y tywyllwch. A byddai'r sarsiant yn ei alw wrth bob enw ac yn ei ystyried yn hollol wallgof yn mentro eto i Dir Neb. Chwibanodd cawodo fwledi tros ei ben a gorweddodd mor llonydd â'r dyn marw a gyffyrddasai funud ynghynt. Fflachiodd tân-belen ar ôl tân-belen uwchben, gan droi'r glaw niwlog yn gochni swrth bob tro. Crynai fel deilen yn yr oerni, er bod chwys ar ei dalcen. Saethodd bwledi i'r ddaear gerllaw, un ohonynt yn