Tudalen:William-Jones.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymyl ei law dde. A ddarganfu'r gelyn hwy, tybed? Gorweddodd felly, yn ofni anadlu bron, am ddeng munud, gan gau ei lygaid a'i ddannedd bob tro y symudai ac yr ochneidiai'r gŵr clwyfedig ar ei gefn. Yna tawelwch eto, llonyddwch trwm, llawn disgwyl, fel hwnnw a ddeuai rhwng y ffrwydradau i un o dyllau'r chwarel.

Y peth gorau i'w wneud oedd cludo Mills ychydig o lathenni ac yna cropian yn ôl am y bachgen. Ia, dyna a wnâi. Ymlusgodd ymlaen am dipyn, ac yna ceisiodd ollwng y baich oddi ar ei gefn. Ond am ryw reswm gafaelai Mills yn dynn am ei wddf yn awr, ac ni fedrai yn ei fyw ddadblethu ei ddwylo. Llwyddodd o'r diwedd a throes yn ei ôl i ymbalfalu am y llanc. Credasai mai gwaith hawdd fyddai ei ddarganfod, ond bu'n ymlusgo i dde ac aswy yn hir cyn ei gael. Cymerodd ef yn ei hafflau, gan ddefnyddio'i draed a'i benelinoedd i ymwthio'n ôl i gyfeiriad griddfan Mills. Gwnaeth hynny dro ar ôl tro nes cyrraedd yn agos i'r ffos.

Ar ei gefn yn ei wely'n methu cysgu, gwenodd William Jones ar y tywyllwch wrth gofio'r munud hwnnw pan gyrhaeddodd o fewn llathen neu ddwy i fin y ffos. Credasai y byddai ei helyntion ar ben ond iddo fedru ymlusgo i'r fan honno, ond rhythodd yn hir i'r tywyllwch o'i flaen, gan ddychmygu y gwelai ffroenau hanner dwsin o ynnau yn anelu ato. Beth gynllwyn a wnâi? Penderfynodd sibrwd yn Gymraeg, gan fod y rhan fwyaf o hogiau'r ffos yn Gymry. "Hei! 'Oes 'na rywun yna? Hei, hogia', hogia?!" Daeth yr ateb ar unwaith.

"Oi, mates, did you hear that? A bloody Jerry right on top of us!"

"No. Welshman, Welshman. Bill Jones. Wil Llan-y- graig.'

Clywodd lais Llew Gruffydd, hogyn o Bwllheli.

"Don't shoot, Bert... Wil! Wil!"

"Ia, Llew, fi sy 'ma."

"Be' gythral wyt ti'n wneud yn fan 'na? Rhywun hefot ti?"

"Oes. Corpral Mills a Lieutenant Howells—y ddau wedi'u clwyfo'n o arw."

"Reit. Gwthia un ohonyn nhw ymlaen inni gael gafal ynddo fo."

A chafwyd dwylo parod i dynnu'r tri ohonynt o dan y weiren bigog i mewn i'r ffos.