Tudalen:William-Jones.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Âi, fe âi â'i fedal gydag ef, meddai William Jones wrth dywyllwch ei ystafell wely. Ymh'le yr oedd y llanc'o swyddog erbyn hyn, tybed? Llanc? Aethai dwy flynedd ar bymtheg heibio er hynny ac yr oedd Howells yn ddyn bellach. Gwelsai William Jones ef yn Llan-y-graig yr haf ar ôl y rhyfel, a chofiai'r diwrnod hwnnw y daethai ef a Glyn Williams Bon Marche i'r chwarel am dro. Ond bu Glyn farw yn fuan wedyn, effaith y clwyfau a gawsai yn Ffrainc, yn sicr—ac ni chlywsai William Jones ddim am Howells ers tro byd. Gwyddai ei fod yn athro ysgol i lawr yn y De, ond dyna'r cwbl. Arno ef yr oedd y bai, gan i'r bachgen ysgrifennu ato ddwywaith, ond yn wir, un sâl iawn am lythyr oedd William Jones. Eisteddasai i lawr i yrru gair ato droeon, ond wedi iddo sôn am y tywydd a hysbysu ei fod mewn iechyd, ni fedrai yn ei fyw grafu unpeth arall i'w ddweud. Efallai y câi ei weld yn awr: byddai ganddynt lawer i sgwrsio yn ei gylch.

Troes William Jones ar ei ochr eto i drio cysgu. Ond yr oedd mor effro â'r gog.

Ymh'le yr oedd strap y fasged wellt, hefyd ? O, ia, ar y bachyn yn y llofft fach. Diar, yr oedd blynyddoedd er pan baciasai ef yr hen fasged i fynd am dro i Ynys Manaw. Yr haf ar ôl iddynt briodi oedd hwnnw, a mynnai Leusa gael mynd "am change." Diawch, dyna le! Pobl fel morgrug hyd y tipyn traeth, sŵn gramaffôn aflafar ym mhobman, merched yn hanner noeth, llanciau a llancesi yn bwyta a dawnsio, dawnsio a bwyta, drwy'r dydd. Ac yntau yn ei ddillad nefi blŵ a'i het fowlar a'i goler galed yn trio'i argyhoeddi ei hun ei fod wrth ei fodd yno. Yn ffodus, trawodd ar Now Dic yr ail fore, a rhoes y ddau berffaith ryddid i Leusa ac Enid May i grwydro i'r lle y mynnent ond rhoi llonydd iddynt hwy i eistedd yn y parc i sgwrsio am y chwarel. A byth er hynny, aethai Leusa am wythnos at ei chyfnither yn y Rhyl bob Awst. Gwenodd William Jones wrth gofio'r siwrnai i Lerpwl bob haf pan oedd yn hogyn. Pam gynllwyn yr aent yno, ni wyddai, oni theimlai ei dad fod yr wythnos yn Lerpwl yn sicr o fod yn addysg i'w blant. Arhosent hefo Jim Roberts, a gadwai siop fechan yno, a threuliai eu tad y rhan fwyaf o'r wythnos yn siarad am Lan-y-graig a'r chwarel hefo Jim, gan wgu ar bob gair o Saesneg a glywai yn y siop ac ar yr ystryd. Arhosai Ann Jones hefyd yn y tŷ, yn mynnu glanhau'r llofftydd a pharatoi bwyd a golchi llestri, gan roi hanes hon-a-hon a