Tudalen:William-Jones.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan gyrhaeddodd adref y prynhawn hwnnw, cafodd ei mam yn mạnglio yn y cwt, ac aeth ati i droi yn ei lle, gan ddywedyd ond ychydig. Yr oedd llygaid Ann Jones fel pe’n treiddio i ddyfnder ei chalon.

"Be sy hiddiw, Meri?"

"Dim byd, 'Mam ... Yr hen wynt oer yna'n chwythu o hyd, o hyd. Piti na fasa' fo'n stopio am dipyn. 'Rydw i wedi bod bron â rhynnu drwy'r bora."

Cyn hir, aethant i'r gegin am de cynnar, ac edrychodd Meri'n syn ar y wledd o'i blaen. Yr oedd yno jeli coch, bara gwyn a brown a brith, teisen o fwyar duon cadw, a phlatiad o gacenni bychain a wnaed ar y radell. P’le y cawsai ei mam amser ac arian i baratoi'r fath wledd?. Torrodd Meri i feichio wylo, a llwyddodd ei mam i gael peth o hanes Jane Huws ganddi.

Wedi iddynt orffen bwyta, cododd Ann Jones â gwên galed ar ei hwyneb.

"Helpa fi hefo'r llestri ’ma, Meri fach, ac wedyn mi awn ni â'r fasgedaid yna o ddillad i dŷ Nel Owen."

"Ond mi a' i â nhw, 'Mam, ar fy ffordd yn ôl, fel arfar."

"Rydw i'n dŵad hefot ti hiddiw. Mae gin' i isio deud un ne' ddau o betha' wrth y Jane Huws yna.'

Dyna ddiwrnod olaf Meri yn nhŷ mawr y Stiward, a dangosodd Ann Jones y prynhawn hwnnw fod huodledd rhyfeddol ynghudd ynddi, gallu eithriadol i lunio brawddegau miniog. Gartref y bu Meri drwy'r haf hwnnw'n cynorthwyo'i mam hefo'r golchi, a disgynnai'r ceiniogau'n aml a llon i'r jwg ar y dresel. Ond gyda'r gaeaf, daeth eto orthrwm y glaw a'r niwl a'r rhew a hunllef bod mewn dyled am y rhent. "Roedd- wn i wedi gobeithio medru dy gadw di gartra hefo mi, Meri fach," meddai Ann Jones un gyda'r nos, "ond wir, mae hi'n mynd yn o gyfyng arno' ni eto. Ond 'fallai y gwellith petha' cyn hir. Dos â'r clocsia' 'ma i'r Hen Gron, 'nginath i."

Rhedodd Meri drwy'r cefn i gwt yr hen glocsiwr a'i gael ef, fel arfer, yn cnoi extra-strong a darllen ei Feibl wrth ei waith. Rhoes y clocsiau iddo a safodd wrth ei ochr ennyd yn ei wylio'n rhoi pedol ar glocsen. Daeth curo ysgafn o'r tŷ. "Martha druan yn curo yn y llofft eto," meddai'r hen frawd, gan godi o'i sedd. "Yr hen riwmatic ’na'n ddrwg iawn arni hi hiddiw, Meri fach. Rhed i fyny i'r llofft i weld be' mae hi isio, 'nghariad i."