Brysiodd Meri i'r tŷ ac i fyny i'r llofft gefn. Eisteddai Martha Williams ar fin y gwely, wedi methu ymlusgo at y ffenestr i'w chau. Hen wraig fechan, grychiog, ydoedd, a'i dwylo tenau wedi'u cloi gan gryd-cymalau.
"Chdi sy 'na, Meri fach?" meddai, a'i hwyneb o femrwn yn crychu mewn gwên. "Yr hen ffenast' 'na heb 'i chau yn dynn, hogan, a finna'n methu'n lân â'i chau hi. Gwthia hi fyny i'r top, 'nginath i, a rho ddarn o bapur ne' rwbath i'w dal hi yn 'i lle."
Llwyddodd Meri i gau'r ffenestr yn dynn, ac yna cynorth- wyodd yr hen wraig yn ôl i'w gwely.
"Diar annwl, yr ydach chi'n crynu fel deilan, Mrs. Wilias fach. 'Rwan, i'r gwely 'na ar unwaith, yn lle sefyllian ar yr hen oilcloth 'na. Ga' i redag i lawr i roi bricsan yn y tân i chi 'i chael hi wrth eich traed?"
"Cei, os byddi di mor ffeind, 'nghariad i. Sut siâp oedd ar betha' i lawr 'na? Popeth ar draws 'i gilydd, mae'n debyg?" "Na, wir, 'roedd y gegin yn edrach yn reit daclus, Mrs. Wilias."
Lapiodd Meri'r fricsen yn ei darn o wlanen a brysiodd i lawr i'r gegin. Tân sâl iawn a oedd yno, a rhedodd i'r cwt am ddyrnaid o naddion i'w ailgynnau. Cyn hir yr oedd fflamau gwresog yn y grât, a thrawodd Meri'r tegell ar y tân i wneud cwpanaid o de i'r hen wraig. Pan fustachodd yr hen Gron i fyny i'r llofft ymhen rhai munudau, cafodd ei wraig yn eistedd i fyny yn ei gwely hefo siôl am ei hysgwyddau a chwpanaid o de yn ei llaw, yn chwerthin yn llon wrth wrando rhyw stori a ddywedai Meri withi. Edrychodd yr hen ŵr yn hir ar ferch y drws nesaf, ac yna, heb un rhagymadrodd, "Faint oeddat ti'n gael yn nhŷ Huws y Stiward, Meri fach?"
"Tri swllt yr wsnos, Mr. Wilias."
"Ddoi di i weithio yma at Martha a finna' am yr un arian? Mi elli fynd adra i gysgu bob nos os lici di, a 'fydde' ni ddim isio iti aros yn hwyr un noson."
"O, mi faswn i wrth fy modd, Mr. Wilias. Mi reda' i adra 'rŵan i ofyn i'm mam."
Cofiai William Jones lawenydd Meri wrth ddychwelyd i'r tŷ ac mor eiddgar yr erfyniai am gael mynd i weini at yr hen Gron. Ac yno, yn gofalu am yr hen bâr duwiol a charedig, y bu am dair blynedd, nes i angau leddfu loes y cryd-cymalau