Tudalen:William-Jones.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gosod pryd o fwyd. Sylwodd ar wynder y llenni ar y ffenestr, ar lewych y pres ym mhobman, ac ar garreg yr aelwyd wedi'i sgwrio'n wen. Man glas o'r Gogledd, meddai wrtho'i hun, wedi'i blannu yn niffeithwch y De. Ac eto ... ni fuasai Meri mor fanwl a llwyr yn Llan-y-graig, a chofiai'r ffraeo aml rhyngddi hi a'i mam ar bwnc y tynnu llwch; yr hen wraig a'i chadach yn ei llaw bob gafael a Meri'n dadlau mai gwastraff ar ynni ac amser oedd y dystio tragwyddol. Ond yma, y mae'n debyg, yng nghanol y blerwch o'i hamgylch, penderfynasai droi ei chartref yn batrwm, a gwenodd yn hapus arni. Caledodd ei wên ychydig pan ganfu fod ei hwyneb yn bur denau a llwydaidd a'i gwallt yn gwynnu'n o gyflym. Ond dyna fo, yr oedd hithau, fel yntau, yn ynd yn hen; yr oedd hi dros ei hanner cant, onid oedd?

Wedi'r daith hir, mwynhaodd William Jones ei de'n fawr, a diflannodd ei bryderon wrth sgwrsio a chwerthin hefo Crad. Un da oedd yr hen Grad, meddai wrtho'i hun, gan wrando ar ei atgofion am bysgota ar y slei yn Afon Gam ers talm. Cofiai'r chwarelwr anniddig a chwerthingar a fuasai ei frawd yng nghyfraith gynt, ei orchestion fel pêl-droediwr, ei siwrnai i America i wneud ei ffortiwn, ei athrylith a'i afradlonrwydd yn neuadd y billiards, ei ymadawiad cynnar i'r rhyfel, ei ail ymgais i wneud ei ffortiwn—y tro hwn yn y gwaith glo ar waethaf cymhellion a dadleuon ei frawd yng nghyfraith. Ia, un da oedd yr hen Grad ! Beth ddywedodd y dyn yna yn y trên hefyd? "Bachan budr." Gwgodd William Jones ar ryw ddyn a welai drwy'r ffenestr yn brasgamu hyd lwybr ei ardd, gŵr ysgwâr ei ysgwyddau, cyflym ei gam, sicr ohono'i hun, a'i gap wedi'i daro'n haerllug ar ochr ei ben. Hy, pwy oedd o'n feddwl oedd o? "Powld" oedd y gair yn y Gogledd am bobl y De. A gwir y gair, meddai'r chwarelwr wrtho'i hun.

Cafodd hanes y teulu—Crad allan o waith ers blwyddyn; Arfon yn Slough, gerllaw Llundain; Eleri yn yr Ysgol Ganol. raddol; Wili John, yr ail hogyn, yn tynnu at bymtheg oed, wedi mynnu gadael yr ysgol honno i fod yn was mewn siop gigydd. Ac yn awr, gan fod Arfon a Wili John yn ennill tipyn o arian, torrwyd dole y teulu i lawr. Wynebai Meri'r dyfodol â phryder yn llond ei llygaid, ond chwarddai Crad, gan daflu ei ben yn ddifater. Fe newidiai pethau eto, meddai ef, ond nid oedd ei chwerthin, yn nhyb William Jones, mor llawen ag y dymunai Crad iddo fod.