Tudalen:William-Jones.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dod â'r petha' 'ma o'r 'lotment i chi, Mrs. Williams," meddai llais dwfn, cerddorol, o'r gegin fach, a daeth gŵr byr tros ei drigain oed i mewn atynt, gan daro basgedaid o gynnyrch ei ardd-ffa, pys, tatws a letys-ar y seld.

"Chymera' i monyn nhw, wir, David Morgan," meddai Meri. "Mae digon o'u heisio nhw arnoch chi."

"Pidwch â siarad dwli, ferch. Mada ni fwy nag ŷn ni'n moyn. Shwmâi, Crad?"

Cyflwynodd Crad ei frawd yng nghyfraith i'w gymydog.

"David Morgan," meddai, "arweinydd Côr Bryn Glo. Y côr cymysg gora' yn y byd, yntê, Dai?"

"Di bod, bachan, 'di bod. Jawch, 'na lwcus ych chi!" meddai wrth William Jones.

"Be'?"

"Dod lawr 'ma 'eddi'. Ma' 'da ni Sacred Concert nos 'fory. Côr Pendyrus. Wyth o'r gloch-ar ôl y Cwrdd."

"Ar ôl y capal," eglurodd Crad, rhag ofn na wyddai ei frawd yng nghyfraith beth oedd cwrdd." "Côr meibion o'r Rhondda Fach ydi Pendyrus, a ma' nhw'n trio cal arian i fynd i fyny i'r 'Steddfod yng Nghaernarfon. Y rhan fwya' ohonyn nhw ar y dole, wyt ti'n gweld, William."

"Beth ych chi'n feddwl o'r lle yma?" gofynnodd y cerddor.

"Wel, wir, lle ... lle go wahanol i Lan-y-graig acw."

"Dyw a ddim yn dishgwl yn llawar o le, odi fa?"

"Y?"

"Lle go hyll i edrach arno fo," cyfieithodd Meri.

"Wel, ... 'wn i ddim... Na, 'falla' nad ydi o ddim yn hardd iawn."

"Hardd?" Chwarddodd David Morgan yn dawel, gan symud i sefyll wrth y ffenestr ac i edrych i lawr ar y pentref a'r cwm islaw. "Wy' i 'di bod ym mhob part o Loeger ac yn 'Merica—'da'r côr, chi'n diall—a 'wy' 'di gweld digon o lefydd pertach. Ond 'fasa'n rhaid i chi whilo'n lled bell am bobol i wado dynon y cwm 'ma."

"Am bobol well na'r rhain," eglurodd Crad.

"Smo nhw i gal yn unman, gwedwch chi beth ych chi'n lico." Syllodd ar y dyffryn islaw. "Ond 'odd Bryn Glo 'ma yn lle pert unwaith, siŵr o fod. Porfa las ym mhobman a'r afon 'co yn lân ac yn bur, yn cwrlo'n wen obeutu'r cerrig, a chôd yn tyfu ar y glanna'. 'Wy' i ddim yn cofio'r lle fel 'na, wrth gwrs, achos 'on i'n llanc yn dod yma, ond 'odd 'r hen