Tudalen:William-Jones.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddaniel Rees, arweinydd y Côr Meibion pan ddetho i yma, yn arfer dala brithyil 'da'i ddwylo wrth y Bont 'co pan odd a'n grwt. Ond 'na fe, y bobol sy'n 'neud y lle, ontefa?"

Gŵr bychan, effro, byw ei lygaid a chyflym a sydyn ei lafar, oedd David Morgan-Dai Top Note i bobl y cwm. Tyfai ei wallt gwyn yn gnwd uwch ei glustiau a thu ôl i'w ben —fel y gweddai i gerddor. Sylwodd William Jones ar farciau dulas y glo ar ei dalcen ac ar ei drwyn.

"Odych, wir, 'ych chi'n lwcus, w," chwanegodd ymhen ennyd. "Ond yw a, Crad? Dod lawr 'ma 'eddi', a'r consart nos 'fory. A ma digon o dicedi ar ôl. Jawch, 'wy'n cofio amser pan allech chi ddim cal ticed fish cyn y consart. Ond 'nawr, â'r dynon mas o waith... 'Odych chi'n gerddor?"

Na, nid oedd William Jones yn gerddor. Buasai'n dipyn o ganwr yn y Band of Hope ers talm ac yn denor mewn wythawd a ffurfiwyd yn y capel rai blynyddoedd wedyn, ond nid oedd côr yn Llan-y-graig a phur anaml y cynhelid cyngerdd yno.

"Ia, llenorion ac adroddwyr ych chi lan 'na, ontefa?"

Nodiodd William Jones, gan deimlo'n ddiolchgar am y deyrnged haelfrydig hon, er i'r syniad wibio drwy ei feddwl nad oedd Bob Gruffydd na Thwm Ifans na Huw Lewis na Dic Trombôn yn fawr o lenorion.

"Yn y gwaith glo oeddach chi'n gweithio, Mr. Morgan?"

"Ia." Cododd ei ysgwyddau, gan fingamu braidd. "S dim gwaith llawn 'di bod yma ers blynyddodd, a 'wy' mas 'nawr ers yn agos i dair blynadd, ers pan gaeon nhw Pwll Bach. Tair blynadd o 'olide, ontefa, Arfon? A dim ond ryw dair ne' bedair shifft yr wthnos am sbel cyn 'ynny..."

"Pedair yn amlach na thair, 'êd," meddai llais o ddrws y gegin. Shinc, y gŵr a gyfarfuasai William Jones yn y trên, a oedd yno. Daeth i mewn atynt â her yn ei lygaid.

"Ac 'ych chi'n gwpod pam?" Nid atebodd neb. "Wel, fe'weda' i wrthoch chi. Pan on ni'n gwitho tair shifft, 'on ni'n cal y dole am y rest o'r wthnos. Ond pan on ni'n gwitho pedair shifft, 'odd dim dole i gal. A rhag iddyn' nhw dalu dole, odd y Labour Exchange a'r ownars yn deall 'i gilydd. 'Faint o waith ôch chi'n gal, Dai, ar y bedwaredd shifft?"

"Wel, dim llawar, wir, Shinc, ond ..."

"Na fe, 'chi'n gweld. A 'nawr wedi i chi witho'r holl flynyddodd dan ddaear, be' sy 'da chi? Y dole a'r Means