"A 'rŵan ..." meddai'r chwarelwr gydag ochenaid, wedi iddo orffen yr hanes.
"Cadw dy blydi chips'! 'Wyddwn i ddim dy fod ti'n gymaint o fôi, William!" A chwarddodd Crad yn hir eto.
"Ond 'rŵan, fachgan ..."
"Diawch, mi rown i ffortiwn—'tasa' gin i'r fath beth—am gal gweld wyneba' Leusa ac Ifan Siwrin pan oeddat ti wrthi'n pacio." A ffrwydrodd y chwerthin ohono eilwaith.
"Ond 'rwan, Crad, mae petha'n ..."
"Wyt ti'n siŵr nad carlamu i mewn ddaru o?' Un go dda oedd hon'na, William."
"Ond 'rwan, Crad, a'r pylla' 'ma ..."
"Y nefoedd, mae 'na siara yn Llan-y-graig heno, William 'Glywsoch chi'? 'Naddo. 'Be'?' 'Am William Jones?' 'Pa William Jones?' 'Gŵr Leusa Jane.' 'Be?' 'Wedi dengid i'r Sowth, cofiwch'! A daeth pwl arall o chwerthin dros Crad. "Tyd i lawr inni gal deud yr hanas wrth Meri."
Deuai aroglau ffrio chips o'r gegin fach pan gyrhaeddodd y ddau ddrws y tŷ, a rhoes Crad bwniad i William Jones yn ei ochr.
"Cadw dy blydi chips!" gwaeddodd, gan chwerthin yn uchel eto. Ond y tro hwn troes y chwerthin yn beswch a'i mygai'n lân, ac eisteddodd mewn cadair i ddyfod ato'i hun. Rhoes Meri ddiod iddo i'w yfed a gwnaeth iddo lyncu tabled a gawsai gan y meddyg.
"Wyt ti'n dechra' drysu, dywed?" gofynnodd.
Nid chwerthin a wnaeth Meri pan glywodd y stori, er i beth o'r hanes ddyfod, gydag addurniadau, o enau Crad. Gwyddai William Jones i'w chwaer gasáu Leusa drwy'r blynyddoedd, a chredasai ar ei ffordd i lawr yn y trên y byddai hi wrth ei bodd yn clywed am ei wrthryfel. Ond golwg bryderus a welai yn awr ar ei hwyneb ac ni thalai yr un sylw i ebychiadau ffrwydrol ei gŵr.
"Be' wnei di 'rwan, William?". gofynnodd. "Does 'na ddim gobaith iti gal gwaith, wsti."
"Mae gin i dros gant o bunna' yn y Post Offis, a phetaswn i'n talu punt yr wsnos i chi am fy lle a gyrru punt i Leusa, mi fedrwn i fyw am flwyddyn petai raid imi. Ond mi fydd petha' wedi troi ar wella cyn hynny."
"Roi di ddim punt yr wsnos i ni, 'ngwas i," meddai Crad.