Tudalen:William-Jones.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wnest ti ddim sôn gair yn dy lythyra'," chwanegodd William Jones. "Des 'na rwbath ar dy iechyd di, Crad?"

"Oes, fachgan, llwch glo ar fy mrest i, y peth maen' nhw'n alw'n silicosis. Mi fedris i ddal ati i weithio dan ddaear nes i'r pwll gau, ond rhyw lusgo fy hun i'r gwaith yr oeddwn i. Wedyn mi es at Doctor Stewart 'ma, ac mi ddeudodd o na fedrwn i ddim gweithio dan ddaear eto."

"Wyt ti'n cael compensation, Crad?"

"Mi apeliais am un. Mi es i lawr at y spesialist yng Nghaerdydd ac wedyn o flaen y Board, ond 'doedd dim digon o lwch ar fy mrest i imi gal compo. 'Glywist ti'r fath lol yn dy fywyd? 'Taswn i'n medru mynd dan ddaear am ryw flwyddyn arall i gal tipyn chwanag o lwch tu mewn imi, mi gawn i gompensation—a charrag fedd!"

"Os medri di aros ... Curai'r frawddeg fel gordd ym meddwl William Jones. Penderfynodd ddweud yr hanes i gyd wrth Crad.

"Doedd gin i ddim syniad fod petha' mor ddrwg yma, fachgan," meddai, "ne' 'faswn i ddim wedi dwad i lawr, mae'n fwy na thebyg."

"Ia, piti na fasat ti wedi dwad am dro pan oedd petha'n mynd yn iawn yma, fachgan. Diawch, 'roedd hi fel ffair yma yr amsar hwnnw—digon o arian, digon o fwyd, digon o fynd i bobman, consarts, ffwtbol, bocsio, cymanfaoedd canu, dramas, cyfarfodydd pregethu, te-parti ar bob esgus. 'Roedd y lle yn fywyd i gyd, ac mi gafodd Meri a finna' a'r plant amsar bendigedig. 'Roedd hi'n werth iti weld Shoni yr adag honno."

"Shoni?"

"Yr enw sy gan bawb ar goliar y cymoedd 'ma. Ond mi wnest yn iawn i ddŵad i lawr, 'tasat ti ddim ond yn cal syniad o'r asgwrn cefn sy yn y bobol 'ma, dole ne' beidio. Mi gredis i a Meri y basa' Shoni'n torri'i galon pan ddechreuodd petha fynd yn dlawd yma. Pobol y tywydd teg oeddan ni'n feddwl oedd o'n cwmpas ni, wsti. Ond 'fu 'rioed rai dewrach na nhw yn yr hen fyd 'ma, William. 'Rioed, fachgan."

"Dûad i lawr yma i chwilio am waith wnes i, Crad."

"Y?"

Adroddodd William Jones ei stori'n fanwl, a Chrad yn taflu llawer "Rargian Dafydd!" a "Nefoedd fawr!" i mewn iddi ac yn chwerthin nes y deuai'r dagrau i'w lygaid.