Tudalen:William-Jones.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoes Crad welltyn rhwng ei ddannedd a syllodd yn freuddwydiol ar y pentref islaw.

"Falla', wir, William," meddai'n dawel. "Ond y bobol sy'n gwneud y lle, chwedl Dai Morgan gynna'. A 'does 'na ddim pobol fel y rhain yn y byd, neb tebyg iddyn nhw." Edrychodd William Jones yn syn ar ei frawd yng nghyfraith. Ond dyna fo, pan oedd yn Llan-y-graig, hogiau'r bêl droed a'r rhai a oedd yn pysgota heb drwydded oedd ei gyfeillion ef. Ac yn awr yr oedd am droi creaduriaid fel y Shinc yna'n arwyr. Yn hollol fel yr hen Grad!

"Fyddi di'n mynd i'r capal 'rŵan, Crad?" gofynnodd â gwên.

"Bob bora Sul a phob nos Sul mor selog ag unrhyw flaenor, was. 'Wyt ti'n cofio'r job oedd Meri a chditha' yn gal i 'nhynnu i i wrando ar yr hen Lloyd yn malu awyr ers talwm?" A chwarddodd y ddau uwch yr atgof. "Ond 'rŵan, 'fydda' i byth yn colli. O barch i Mr. Rogers. Dyna iti ddyn, William!"

"Y gweinidog?"

"Ia. Mae o wedi cal galwad dro ar ôl tro i fynd o'r twll yma. Ond 'wyt ti'n meddwl yr aiff o? Dim peryg'! Mi glywis i iddo fo gal cynnig pumpunt yr wsnos a'i dŷ y dwrnod o'r blaen yn rhwla tua Chaerfyrddin 'na. Ond yma y mae ac yn rhoi chweugain yn ôl o'i gyflog, er bod hwnnw'n un digon bychan, bob mis. Mi gafodd o goblyn o job i berswadio rhai o'r blaenoriaid i droi festri'r capal'cw yn rhyw fath o glwb i'r di-waith, ond mi lwyddodd o'r diwadd ac mi fedrodd gal weiarles a phiano a llyfra' o rwla. A 'does dim diwadd ar 'i waith o hefo'r Urdd yma. Mae Wili John yn hannar- addoli'r dyn. A finna', o ran hynny."

"Fo sy gynnoch chi 'fory?"

"Ia, a fo ydi llywydd y consart nos 'fory. Ac os medri di aros dros ddiwadd yr wsnos nesa' 'ma, William, mi gei 'i glywad o'n siarad yn Saesneg yn yr Hall 'ma-rhyw gwarfod mae'r eglwysi wedi'i drefnu ar gyfar y bobol ifanc."

"Os medri di aros ..." Rhoes y frawddeg hergwd go arw i feddwl William Jones.

"Y dyn Shinc 'na," meddai, braidd yn ansicr ei lafar.

"Ia?

"Be' oedd o'n feddwl wrth ddeud bod llwch ar dy frest di?"

Ni ddywedodd Crad ddim am ennyd.