"Bwyta di dy swpar, dyna ferch dda," oedd ateb ei thad. Yna, "Lle mae Arfon?" gofynnodd.
"I lawr y pentra hefo'i ffrindia'," meddai Meri. "Dydi o ddim wedi'u gweld nhw er y 'Dolig."
"Diar annwl! 'Fuo fo ddim adra er y 'Dolig?" gofynnodd William Jones.
"Naddo," atebodd Meri. "Roeddwn i isio iddo fo ddŵad adra dros y Pasg, ond mae hi'n siwrna' go gostus ac 'roedd yn well ganddo fo yrru tipyn o arian adra na thalu'r trên."
"Be' mae o'n wneud yno?"
"Gneud gramophones," meddai Wili John, yn sicr ac yn falch o'r ffaith mai ei frawd ef a gyflwynai'r peiriannau hynny i'r byd.
"Sut mae o'n licio yno, Meri?"
"Mae o'n deud 'i fod o'n reit hapus, William. 'Wn i ddim. 'Roedd hi'n biti garw iddo fo adael yr Ysgol Ganolraddol, ond 'wnâi dim arall y tro ond mynd i ffwrdd i'r Slough 'na pan ddaru nhw gau'r pwll."
"Ers faint mae o yno?"
"Yn agos i flwyddyn, bellach. Mi wnaeth Crad a finna'n gora' glas i'w berswadio fo i beidio â mynd, ac mi ddaeth Mr. Jenkins, yr ysgolfeistr, yma'n unswydd i siarad hefo fo. Roedd o'n siŵr o gael ysgoloriaeth i'r Coleg, medda' fo. Ond 'doedd dim modd 'i gymall o. Mi wrandawodd ar Mr. Rogers, y gweinidog, un noson, ac 'roeddan ni i gyd yn credu y basa' fo'n setlo i lawr i stydio ar gyfar mynd i'r Coleg. Ond y dwrnod wedyn, mi welodd 'i dad yn aros yn y queue wrth y Labour Exchange ac mi sgwennodd i'r lle 'na yn Slough ar unwaith. Un 'styfnig ydi Arfon—fel finna', o ran hynny. ... Chwanag o'r chips 'ma, William?"
"Dim diolch, Meri, er 'u bod nhw mor dda."
"Y tatws gefis i gan David Morgan heno. Ac mi ddaeth Shinc yma wedyn ar ôl i chi fynd allan, hefo llond basgad o ffa—a rhyw bamffled arall. Diar, dyna garedig y mae'r bobol yma! 'Does 'na neb tebyg iddyn nhw, William. 'Does gynnon ni ddim alotment, 'wyt ti'n dallt, gan fod Crad ddim yn dda, ond fuon ni ddim ar ôl o datws a llysia' a ffrwytha' o gwbwl. . . Tyd, Eleri, mae'n bryd iti fynd i'r gwely."
Wedi rhyw hanner awr arall o sgwrsio, troes William Jones yntau tua'i wely. Pan gyrhaeddodd y llofft, gwelodd fod Wili John yn cysgu'n braf ar ôl gwibio yma ac acw ar ei feic