drwy'r dydd, a thynnodd ei ewythr oddi amdano'n ddistaw bach. Safodd wrth y ffenestr yn hir yn syllu ar y cwm islaw. Cuddiai llenni o dawch a chysgodion, fel niwien ysgafn, ei hagrwch bellach, a hongiai cadwyni o oleuadau ar hyd-ddo, dwy ohonynt yn ymdroelli gyda'i gilydd am ryw filltir yn y pellter ac yna’n troi'n sydyn i'r dde o'r golwg. Ond nid oedd yma heddwch a thawelwch hyd yn oed ar noson braf o Orffennaf fel hon, meddai'r chwarelwr wrtho'i hun. Clywai leisiau gwyllt yn bloeddio rhyw gân Saesneg amrwd drwy ystryd gyfagos, a deuai hefyd sŵn aflafar cerddorfa-ddawns o rywle. Rhyw le rhyfedd oedd hwn. Y bobl yn gwneud y lle? Ia, meddai William Jones wrth droi ymaith oddi wrth y ffenestr, a dyna sŵn rhai o'r taclau powld y munud yma. Ni ddeallai Grad a Meri o gwbl. "Ddim yntôl," meddai gydag ochenaid wrth lithro i'w wely.
PENNOD VIII
SABATH
DEFFROES William Jones yn fore, ond arhosodd yn ei wely, gan syllu’n freuddwydiol o gwmpas y llofft. Trawai llif yr heulwen ar y mur chwith, a gwyliodd y rhimynnau hirion o olau yn disgleirio ac yn pylu bob yn ail ennyd. Diar, dyna beth glân oedd goleuni, onid e? Ac wedi i'r sylw chwyldroadol hwn fynd trwy ei feddwl, gwenodd ar y darlun o Grad a Meri i'r dde o'r ffenestr. Y darlun a dynnwyd ar ddydd eu priodas ydoedd, Crad mewn dillad milwr â gwên go wirion ar ei wyneb, a Meri'n edrych yn ddifrifol iawn, fel petai hi'n sylweddoli iddi ymgymryd â dyletswydd go fawr. Aethai yn agos i ugain mlynedd heibio er hynny, a newidiasai'r blynyddoedd lawer ar y ddau wyneb yn y darlun. Dyna dew oedd Crad y pryd hwnnw!—tew a llon a difater, heb boen yn y byd. Ymddangosai Meri hefyd yn ddeugain, yn hytrach nag ugain mlynedd, yn ieuangach nag oedd hi yn awr. Oedd, yr oedd hi wedi heneiddio cryn dipyn er pan welsai hi bum mlynedd yn ôl, meddai William Jones wrtho'i hun.
Canai bronfraith mewn gardd islaw, a meddyliodd William