Tudalen:William-Jones.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones fod ei llais yn rhy bêr i ryw anialwch o le fel hwn. Mewn dyffryn glân a gwyrddlas y dylai hi diwnio, uwch murmur nant ac yn su awel mewn dail. Caeodd ei lygaid, a dug hyfrydlais y fronfraith ef i'r darn hwnnw o Afon Gam lle gwyrai'r coed yn do uwch clychau'r dŵr a ddisgynnai'n rhaeadr fechan, wen. I'r fan honno y dylai'r fronfraith hon ehedeg, yn lle cymryd arni ei bod yn ei mwynhau ei hun mewn diffeithwch fel hwn.

Clywodd sŵn Meri'n mynd i lawr y grisiau cyn hir, a chododd yntau. Safodd eto wrth y ffenestr i syllu ar y cwm islaw, ar ystrydoedd tlawd a syth y pentref, ar ffrâm ddu, galed, Nymbar Wan, fel crocbren haearn uwch y siediau a'r wagenni segur, ar y llethrau moel a chlwyfedig, ar wg tywyll y tip glo uwchlaw iddynt. Na, ag iddi ddewis o lwybrau tawel dan lesni coed, ni ddylai bronfraith ganu mewn lle fel hwn.

"Diar, be' wyt ti isio codi mor fora, dywad?" meddai Meri wrtho pan gyrhaeddodd y gegin.

"Ond mae hi ymhell wedi wyth."

"Mae hynny'n fora ar ddydd Sul, William. Mi fydd y lleill yn 'u gwlâu am yn agos i ddwyawr arall."

"Ond 'roedd Crad yn deud wrtha' i neithiwr 'i fod o'n mynd i'r capal bob bora Sul."

"Mi fydd o, ond un ar ddeg, nid deg, y maen nhw'n dechra' yma."

"O?" Enghraifft arall o ddiogi a difaterwch y Sowth.

"Na hidia; mi gawn ni damad o frecwast hefo'n gilydd."

"Sut mae Crad y dyddia' yma, Meri?" gofynnodd iddi wedi iddynt eistedd wrth y bwrdd.

"O, mae o'n well o dipyn 'rŵan. Mi fuo fo'n cael pylia' ofnadwy yn 'i wely'r nos—bron â mygu, fachgan—ond mae o'n cael llonydd oddi wrth rheini ers tro. Mewn rhyw ffordd ma'n dda 'i fod o allan o waith, ne' 'wn i ddim be' fasa' wedi digwydd 'tasa' fo wedi dal i fynd dan ddaear. 'Roedd o'n mynnu mynd ar fy ngwaetha' i."

Ar ôl brecwast aeth William Jones allan am dro, gan fwriadu dringo'r llwybr i'r mynydd. Ond wedi iddo gyrraedd pen yr ystryd, troes i'r chwith ac i lawr i'r pentref i gael golwg mwy hamddenol ar y lle. Chwaraeai twr o blant ym mhob heol, ac yn eu plith yr oedd cŵn y greadigaeth. Ysgydwodd William Jones ei ben yn drist: beth a ddywedai Mr. Lloyd? Pan gyrhaeddodd y brif heol, gwelodd ddwy siop wrth ochrau'i