Tudalen:William-Jones.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd â'r ddau air TO LET yn fawr ar eu ffenestri, ac yr oedd un arall, siop esgidiau, yn wag tros y ffordd iddynt. Pur dlawd yr ymddangosai eraill, a hysbysai amryw eu telerau arbennig-hyn-a-hyn ar law a hyn-a-hyn yr wythnos: gallech brynu rhywbeth, o fwced i biano, felly. Nodiodd William Jones ar ŵr bach cyflym a godai ei ben, yn wên i gyd, o'r papur Sul yr oedd newydd ei brynu. "Bora bach ffein?" meddai yntau, gan ateb ei gwestiwn ei hun ag "Odi, wir, w!" a gwên arall ar gynnwys y papur. Newyddion da o lawenydd mawr am Golden Streak, efallai. Pam na roesai'r dyn goler a thei am ei wddf? Yn enwedig ar fore Sul fel hyn.

Wrth ddynesu at y Workmen's Hall, syllodd William Jones yn ddig ar y dwsin o lanciau a merched ifainc a gyfarfuasai yno i gychwyn ar eu beiciau i lan y môr neu rywle. Ni hoffai eu coesau noethion na'u gyddfau isel na'u sŵn gorlawen. Yna oedodd ennyd ar y bont i wylio lliwiau'r olew a nofiai ar dywyllwch araf yr afon islaw. Yr oedd siop yr Eidalwr gerllaw ar agor, a chlywai chwerthin a chlebran uchel ynddi. Oni wyddai'r taclau ei bod hi'n ddydd Sul? Troes William Jones yn ei ôl yn bur anhapus ei feddwl.

Cafodd y teulu wrth eu brecwast o weddill y sausage a ddygasai Wili John o siop y cigydd. Yr oedd dagrau ar ruddiau Eleri.

"Hylô, be' sy?" gofynnodd ei hewythr.

"O, meiledi yn daer am gael gadal yr ysgol," meddai ei mam. "Mae hi'n un ar bymtheg ac yn sâl isio mynd i weithio. I b'le, dyn a ŵyr.”

"I Lunden, fel Rachel."

"Hogan tros ffordd sy wedi mynd i weini at ryw Iddewon yn Llundain," eglurodd Meri. "Ac mae hi bron â thorri'i chalon yno, yn ôl 'i mam."

"Dyw hi ddim," meddai Eleri'n ystyfnig.

"Be wyddost ti? Dos di ymlaen hefo dy frecwast a phaid â bod yn fabi 'rŵan."

"Dere di 'nawr 'rŵan," meddai ei thad mewn cymysgedd rhyfedd o'r ddwy dafodiaith.

"Mae'n ddigon inni weld Arfon a Wili John wedi gadal yr ysgol," chwanegodd ei mam wrth Eleri, "heb orfod gwrando arnat ti'n swnian. Dy le di ydi gwneud dy ora' yno, gan dy fod ti'n cael cyfla i fynd yn dy flaen. Yntê, Wncwi William?"

"Ia ... Ia, wir," meddai William Jones yn ddwys.