Tudalen:William-Jones.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhyw sylwadau o eiddo Arfon am dyrfaoedd a phrysurdeb Llundain oedd achos yr helynt. A dwyawr ganddo i aros am ei drên ar ei ffordd adref, aethai am dro i ganol y ddinas, gan ryfeddu at y goleuadau amryliw a droai nos yn ddydd, at y lluoedd o bobl ym mhobman, at y ceir yn gwibio yma a thraw. Troes i mewn i dŷ-bwyta anferth am gwpanaid o goffi, ac yno yr oedd darluniau a goleuadau cywrain ar y muriau, cannoedd o bobl wrth y byrddau, ac, mewn ffrydlif o olau a newidiai ei liw bob ennyd, fand o wŷr yn chwarae a chanu, pob un ohonynt yn gwisgo crys o sidan melyn. Teimlai Arfon yn euog wrth ofyn am ddim ond cwpanaid o goffi yn y fath blas o le, yn arbennig a'r dyn a weinyddai arno'n gwisgo ffrynt wen galed a bwa du. Cafodd fwy na gwerth ei dair ceiniog yn gwylio'r bobl o'i amgylch, y gymysgfa ryfeddaf a welsai neb erioed. Bwytâi un gŵr swper anferth gan ddal i ysmygu ei sigâr yr un pryd rhwng pob cegaid o fwyd; gwelai un arall gerllaw iddo, dyn â barf laes, aflêr, yn darllen yn uchel o lyfr o'i flaen ac yna'n annerch y byd yn gyffredinol, gan grychu a dadgrychu ei drwyn yn ffyrnig.

Cuddiodd William Jones y wên a ddeuai i'w wyneb wrth iddo ddilyn Crad a'r plant tua'r capel, ddeng munud yn rhy gynnar. Yr oedd cerdded Crad yn wahanol i'r hyn ydoedd y noson gynt, yn fwy defosiynol, yn drymach, yn arafach, a lled-ddisgwyliai i'w frawd yng nghyfraith agor ei lyfr emynau a ledio emyn yng nghanol yr ystryd. Hwy oedd yr unig rai yn y capel am rai munudau, ond dechreuodd y gynulleidfa fechan ymgasglu cyn hir. Gwyliodd William Jones hwy'n mynd i'w seddau-pobl ganol oed neu rai hŷn bron i gyd, a daeth cwestiwn yr hen Ddafydd Morus yn ôl i'w feddwl. Beth a ddeuai o'r capeli ymhen ugain mlynedd, tybed? Clywsai lawer o sôn am gynulleidfaoedd mawrion y Sowth, am bregethwyr yn ysgwyd tyrfaoedd, am ganu a ymchwyddai'n donnau ysblennydd. Ond yma, ym Mryn Glo, gwelsai mai'r papur Sul a beicio i lan y môr a siop yr Eidalwr a ddenai'r ieuainc—yn y bore, beth bynnag: ond efallai y byddai pethau'n o wahanol erbyn y nos. Gwelodd David Morgan yn cymryd ei le yn y Sêt Fawr, ac wrth ei ochr eisteddodd gŵr ifanc unfraich, myfyrgar yr olwg. "Hogyn Dai Morgan," sibrydodd Crad. Colli’i fraich yn y pwll." Yna daeth y gweinidog i mewn, gan ysgwyd llaw â'r blaenoriaid cyn dringo i'r pulpud. Gŵr tua deugain oed ydoedd, ond â'i wallt