o sedd i sedd. "Gan hynny o ba le y daw doethineb ?" gofynnodd, "a pha le y mae mangre deall ?" Ni fedrai William Jones yn ei fyw gofio diwedd y bennod a'r ateb i'r cwestiwn, er iddo grychu ei dalcen a hyd yn oed roi ewin ei fawd rhwng ei ddannedd yn yr ymgais. Daria, ymh'le yr oedd hi, hefyd? Ei ateb i bron bob cwestiwn yn yr Ysgol Sul oedd "Iesu Grist," ond ni wnâi hwnnw'r tro wrth drin Llyfr Job. "Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw," aeth y darllenwr ymlaen, "a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd." Dilynodd William Jones bob adnod yn astud, nes dyfod yr ateb o'r diwedd—"Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg sydd ddeall." Ia, dyna fo—"ofn yr Arglwydd ;" yr oedd o'n gwybod, ond i'r peth fynd yn angof. Ond be' oedd "ofn yr Arglwydd?"
Yr adnod honno oedd testun y bregeth, a thawelwyd chwilfrydedd William Jones cyn hir. Clywodd am wybodaeth dyn, heb ei chyffwrdd â gwyleidd-dra duwiol, yn anrheithio gwledydd â rhyfel, dinasoedd â thlodi, cymoedd â diwydiant haerllug: clywodd hefyd am ryw wraig o'r enw Madame Curie a rhyw wr o'r enw Albert Schweitzer yn troi eu gwybodaeth yn ddoethineb trwy ei chyflwyno i wasanaeth eu cydddyn yn wrol a gostyngedig, gan ogoneddu Duw yn eu gwaith. Teimlai William Jones yr hoffai wybod mwy am y bobl hyn, ac efallai y medrai gael gafael ar ryw lyfr yn cynnwys eu hanes. Y gwir oedd na threngasai'r anturiaethwr cynnar ynddo, y gwron a ddarganfu'r ynys bell a chyfandiroedd newydd yng nghwmni Enid May, a phe câi ef y cyfle, dyna a wnâi yntau yr yfory nesaf—troi ei wybodaeth yn ddoethineb, trwy wasanaeth i'w gyd-ddyn. Ei wybodaeth? Sut i rwygo'r graig yn y twll ac i hollti a naddu yn y wal. Ond erbyn hyn gadawsai'r pregethwr yr enwogion i holi beth oedd doethineb ymhlith pobl syml a chyffredin fel hwy. A'r un oedd yr ateb—ymroi i wasanaethu eraill mewn gair a gweithred er eu budd hwy ac er gogoniant Duw. A phenderfynodd William Jones ei bod hi'n hen bryd iddo ef fod o ddefnydd i eraill yn lle meddwl o hyd am ei gysuron a'i gynlluniau ei hun. Ac am Leusa! ... ond cododd i ganu'r emyn olaf, gan ddilyn yn ufudd ac eiddgar yr arweiniad a roddai llaw David Morgan i'r gynulleidfa.
"Wel, be' wyt ti'n feddwl ohono fo, William ?" oedd cwes- tiwn Crad ar y ffordd adref.