dig tuag at ei Wncwl William, a oedd, yn ôl Gomer, yn un o'r cyfalafwyr. Dim ond cyfalafwr a allai fforddio byw ar ei arian.
Yr oedd cynulleidfa lawer cryfach yn y capel yn yr hwyr, ond sylwodd William Jones eto mai pobl mewn oed oeddynt gan mwyaf. Cofiai Meri, meddai hi ar y ffordd i'r gwasan- aeth, amser pan na fyddai gobaith i rywun gael sedd yn y capel heb gyrraedd yno cyn chwarter i chwech, ond yn awr, y galeri i gyd yn wag a llawer o seddau gweigion ar y llawr. Yr ifainc ? o, yn crwydro'r ffyrdd neu â'u trwynau yn y papurau Sul. Ysgydwodd William Jones ei ben yn ddwys. Ond rhywbeth tebyg oedd pethau yn Llan-y-graig, o ran hynny. Petai gan yr ifainc 'ma rywbeth i'w gynnig yn lle'r gwasanaeth crefyddol, rhywbeth gwell na beic a gliniau noeth... Ac eto, yr oedd golwg iach ac effro iawn o gwmpas y bobl ifainc hynny a welsai ar gychwyn i rywle yn y bore. Fe wnâi fyd o les i rai o flaenoriaid Llan-y-graig gael beic a throwsus bach a chrys agored yn lle dillad parch a het galed. Gwenodd William Jones wrth feddwl am yr hen Wmffra Roberts a Mr. Lloyd yn gyrru'n wyllt ar gefn tandem. Sylweddolodd fod Crad yn ei wylio'n syn, a gwnaeth ymgais i ymddwyn yn fwy gweddus yn y deml.
Nid oedd William Jones yn ganwr, er bod ganddo lais pur swynol. Rhyw lusgo drwy bob emyn y byddai'r gynulleidfa yn Llan-y-graig, a Richard Ifans, yr arweinydd, yn dal yn hir ac yn uchel ar nodyn olaf pob bar, gan ddisgwyl i bawb arall ymdawelu i wrando ar hyfrydwch ei lais. Yn wir, er dyddiau'r Band of Hope, pan alwai Huws Roberts Wili Jôs ymlaen i diwnio yn y Sêt Fawr, bodlonodd ein gwron ar fywyd digân. Rhwng ymgais i anghofio bref Richard Ifans a cheisio'i berswadio ei hun nad oedd sgrech Leusa wrth ei ochr mor anfelys ag y tybiai ef, go annifyr y teimlai wrth godi i ganu emyn yn y capel. Dyna un peth a boenasai gryn dipyn arno wedi iddo syrthio mewn cariad â Leusa-ei llais. Y mae'n debyg y credai hi ei fod yn un peraidd, ac mai'r gred honno a eglurai'r sgrechian wrth siarad ar y stryd ac wrth ganu yn y capel. Neu a oedd hi'n bosibl na chlywai rhywun mo'i lais ei hun? Efallai, wir. Prin yr agorai na Richard Ifans na Leusa eu cegau byth wedyn pe rhoddai Rhagluniaeth iddynt ddim ond chwarter munud o glywed eu lleisiau eu hunain. Dywedasai rhywun yn y caban ryw ddiwrnod nad trwy'r glust