Tudalen:William-Jones.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olwynion segur Pwll Bach ar draws y cwm, olwynion nad oedd ond i'w cysgodion un symud. "Falla', wir, wsti."

Bu tawelwch rhyngddynt am amser, ac yna darluniodd William Jones ryw ŵr a gyfarfuasai yn y trên y diwrnod cynt, dyn a roddai ei ben allan ym mhob gorsaf i ddwrdio pob porter am fod y trên yn hwyr. Chwarddodd Arfon yn isel, ac yna safodd yn sydyn ar y llwybr.

"Chi sy'n reit, Wncwl William," meddai.

"Y?"

"Obothdu'r ddrama 'na. Rhaid i'r bachan 'na ddod 'nôl i Fryn Glo ac i sgwennu barddoniaeth newydd am bobol fel Mr. Rogers a Dai Morgan a ..."

"A'th dad."

"Ie, a 'Mam. A Wili John."

"Ac Arfon Williams." A chwarddodd y ddau wrth droi'n ôl tua'r pentref.

Beth a ddeuai o Arfon, tybed? gofynnodd William Jones iddo'i hun ar y ffordd yn ôl. Yr oedd yn fachgen glân, eiddgar, byw ei feddwl, un dwys fel ei fam, ond dyna ef yn y Slough 'na mewn gwaith dienaid a llety digalon yn lle cael ymhyfrydu mewn llyfrau a mwynhau breintiau addysg. Ac yn ôl a glywsai gan Grad, yr oedd ugeiniau o rai tebyg iddo yn ninasoedd Lloegr. Piti garw. Yr oedd hi'n bryd i rywun wneud rhywbeth i atal y llif o'r cwm a'r cymoedd hyn i Loegr. Oedd, wir, yn hen bryd i rywun wneud rhywbeth.

Wili John oedd y parablwr mwyaf amser te. Dyfeisiasai ef a Gomer Rees, hogyn Shinc, gynllun i ddwyn bywyd yn ôl i Fryn Glo. Y drwg oedd na wyddai'r Bobl Fawr yn Llundain hanes y cwm, a'r ffordd i'w deffro oedd trefnu gorymdaith arall i'r brifddinas. (Fe fuasai un go dila rai blynyddoedd cyn hynny). Yr oedd gwŷr y cwm i gyd i ymuno â hi'r tro hwn, ac wedi iddynt gyrraedd Llundain, i mewn â hwy yn dorf i'r Tŷ Cyffredin. Yno, araith ysgubol gan Shinc, a'r Prif Weinidog yn neidio ar ei draed ac yn cydio yn ei het i ddal y trên cyntaf i Fryn Glo. Rhagredegwyr y fyddin enfawr, ar gefn eu beiciau, fyddai Gomer a Wili John, a chan un faner ac arni fygythiadau didosturi a'r llall yn ysgwyd cloch anferth ym mhob pentref a thref ar y ffordd.

"Ddega' o weithia' yr ydw' i wedi deud wrthat ti am beidio â chlebran hefo dy geg yn llawn o fwyd," oedd barn ei fam am y cynllun. A thawodd y chwyldroadwr, gan daflu golwg