Neidio i'r cynnwys

Tudalen:William Morgan, Pant, Dowlais (Trysorfa y Plant).djvu/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRYSORFA Y PLANT. HYDREF, 1895

MR. WILLIAM MORGAN, PANT, DOWLAIS.

MAE Mr. William Morgan yn Gymro diledryw, sydd, trwy ymroddiad a dyfalbarhad, wedi gweithio ei hun i fyny i gylch uchel o ddefnyddioldeb ac anrhydedd Ganwyd ef yn Dowlais, Tach. 16, 1830, ac yno y mae wedi treulio ei holl oes. Mae yn Fethodist o'r Methodistiaid, o ran ei dad a'i fam. Yr oedd ei dad, Mr. Morgan Morgans, blaenor Dowlais, yn frodor o Ystradfellte, ac yn nai, mab brawd, i'r hen bregethwr, Siencyn Morgan, Ystradfellte. Yr oedd ei fam yn ferch i Mr. David Griffith, blaenor arall yn Dowlais, ac wedi dyfod yno o Blaencefn, yn Sir Aberteifi. Tad y Dafydd Griffith yma oedd Theophilus Griffith, yr hwn oedd yn dal y ddwy